Neidio i'r Prif Gynnwys

Prif Dudalen Lywio

Hafan Cofrestru Sut i wneud cais Cymraeg English

Pennaeth Gwasanaeth, Rheoli Datblygu

Manylion Swydd Wag


Crynodeb
Grŵp Swydd Wag: Llawn Amser Parhaol
Categori: Economi a Cynllunio
Dyddiad Cau: 19/02/2023
Dyddiad Postio: 02/02/2023
Cyfeirnod: 06762

Disgrifiad

G15 - £58,082 - £61,753

Wrecsam yw dinas fwyaf newydd Cymru – a hoffech chi ein helpu ni i’w siapio?

Rydym yn falch iawn o'n Statws Dinas newydd.  Gyda Strategaeth Siapio Lle newydd yn cael ei datblygu, David Fitzsimon, Prif Swyddog newydd yn cael ei benodi yn 2022 a llawer o brosiectau adfywio diddorol ar y gweill, mae cyfnod prysur a chyffrous o’n blaenau.  Mae gennym ystod o gyfleoedd diddorol ar hyn o bryd ar gyfer gweithwyr proffesiynol cynllunio brwdfrydig a thalentog i wneud eu marc ar ystod o lefelau. 

Rydym yn chwilio am weithiwr proffesiynol llawn ysgogiad a phrofiadol ym maes Cynllunio Tref gyda thystiolaeth o rinweddau arwain i fod yn aelod allweddol o’r Uwch Dîm Rheoli o fewn Gwasanaeth newydd yr Economi a Chynllunio.

Mae hon yn rôl allweddol i ddarparu gwelliannau gwasanaeth; gan arwain ar bob agwedd o swyddogaethau Rheoli Datblygu a Gorfodaeth y Cyngor, gan reoli tîm o Swyddogion proffesiynol a chyswllt gydag Aelodau Etholedig. 

Rydym yn falch o fod â Gwobr Aur am Iechyd Corfforaethol ac mae ein diwylliant yn seiliedig ar rymuso, cefnogaeth ac ymddiriedaeth.  Rydym newydd symud i’n Swyddfa newydd ei hadnewyddu yng nghanol Wrecsam ac rydym yn gweithio mewn ffordd fodern, hyblyg a chreadigol.   Mae’r buddion yn cynnwys aelodaeth o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, lwfans gwyliau hael a hyfforddiant strwythuredig parhaus. 

I drefnu trafodaeth anffurfiol am unrhyw un o’r swyddi hyn, gallwch anfon e-bost at David Fitzsimon, Prif Swyddog Economi a Chynllunio: david.fitzsimon@wrexham.gov.uk

Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.


Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:

Cysylltiadau
Cyswllt 1
Enw'r cyswllt: David Fitzsimon
Ffôn: 01978 298930
Cyfeiriad e-bost: david.fitzsimon@wrexham.gov.uk

Llywio Cyfrif

Heb Gofrestru?

  • Trwy gofrestru, byddwch yn gallu cadw gwybodaeth bersonol sy'n arbed amser pan fyddwch yn cofnodi'ch manylion, mae'n gadael ichi wneud cais am swyddi a rheoli'ch ceisiadau am swydd.
  • Cofrestrwch Nawr