Pennaeth Gwasanaeth, Rheoli Datblygu
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Economi a Cynllunio |
Dyddiad Cau: | 19/02/2023 |
Dyddiad Postio: | 02/02/2023 |
Cyfeirnod: | 06762 |
Disgrifiad
G15 - £58,082 - £61,753
Wrecsam yw dinas fwyaf newydd Cymru – a hoffech chi ein
helpu ni i’w siapio?
Rydym yn falch iawn o'n Statws Dinas newydd. Gyda Strategaeth Siapio Lle newydd yn cael ei datblygu, David Fitzsimon, Prif Swyddog newydd yn cael ei benodi yn 2022 a llawer o brosiectau adfywio diddorol ar y gweill, mae cyfnod prysur a chyffrous o’n blaenau. Mae gennym ystod o gyfleoedd diddorol ar hyn o bryd ar gyfer gweithwyr proffesiynol cynllunio brwdfrydig a thalentog i wneud eu marc ar ystod o lefelau.
Rydym yn
chwilio am weithiwr proffesiynol llawn ysgogiad a phrofiadol ym maes Cynllunio
Tref gyda thystiolaeth o rinweddau arwain i fod yn aelod allweddol o’r Uwch Dîm
Rheoli o fewn Gwasanaeth newydd yr Economi a Chynllunio.
Mae hon yn rôl allweddol i ddarparu gwelliannau
gwasanaeth; gan arwain ar bob agwedd o swyddogaethau Rheoli Datblygu a
Gorfodaeth y Cyngor, gan reoli tîm o Swyddogion proffesiynol a chyswllt gydag
Aelodau Etholedig.
Rydym yn falch o fod â Gwobr Aur am Iechyd Corfforaethol ac mae ein diwylliant yn seiliedig ar rymuso, cefnogaeth ac ymddiriedaeth. Rydym newydd symud i’n Swyddfa newydd ei hadnewyddu yng nghanol Wrecsam ac rydym yn gweithio mewn ffordd fodern, hyblyg a chreadigol. Mae’r buddion yn cynnwys aelodaeth o Gynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, lwfans gwyliau hael a hyfforddiant strwythuredig parhaus.
I drefnu trafodaeth anffurfiol am unrhyw un o’r swyddi
hyn, gallwch anfon e-bost at David Fitzsimon, Prif Swyddog Economi a
Chynllunio: david.fitzsimon@wrexham.gov.uk
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r
Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu
ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn
Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael
eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | David Fitzsimon |
Ffôn: | 01978 298930 |
Cyfeiriad e-bost: | david.fitzsimon@wrexham.gov.uk |