Dadansoddwr Technegol TGCh – Cyfathrebu Unedig
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Cyllid a TGCh |
Dyddiad Cau: | 07/05/2023 |
Dyddiad Postio: | 24/03/2023 |
Cyfeirnod: | 07361 |
Disgrifiad
Dadansoddwr Technegol TGCh
– Cyfathrebu Unedig
G09
£32,909 - £35,411 y flwyddyn
Dyma gyfle gwych i ymuno
â thîm Isadeiledd TGCh prysur a datblygol Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam fel
Dadansoddwr Technegol ar gyfer Cyfathrebu Unedig.
Bydd deiliad y swydd yn atebol i’r Rheolwr Isadeiledd TGCh ac yn chwarae rhan allweddol i gefnogi technolegau llais a chyfathrebu unedig y Cyngor. Bydd eich gwaith yn amrywio a bydd yn cynnwys gweithredu a chefnogi meddalwedd a chaledwedd newydd a phresennol ar gyfer Cyngor Wrecsam, ei weithwyr, partneriaid busnes, budd-ddeiliaid gwasanaeth a’r cyhoedd.
Dylai’r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar wybodaeth gyfredol a phrofiad o’r sgiliau a’r technolegau canlynol:
· Sgiliau a phrofiad o dechnolegau llais, gweinyddiaeth system llais a darpariaeth llais. Mae profiad o ddefnyddio systemau Avaya PBX yn hanfodol
· Profiad o reoli systemau sydd wedi’u hintegreiddio â systemau llais e.e. Systemau IVR, Cofnodi Galwadau, Ffonau Meddalwedd, Neges Llais, Cofnodi Galwadau, Canolfan Gyswllt ac ati
· Profiad o symud llinellau teleffoni (e.e. ISDN/PSTN)
· Gwybodaeth a sgiliau i arwain yr awdurdod i gynnwys datrysiadau llais mewn fideo gynadledda a datrysiadau negeseua gwib (e.e. Zoom, Teams)
· Gwybodaeth am SIP a phrofiad o ddatrys problemau SIP
· Mae gallu integreiddio neu symud i blatfform teleffoni letyol/cyfathrebu unedig yn fanteisiol
Os ydych chi’n teimlo bod y swydd hon yn addas i chi, mae’n bwysig eich bod chi’n weithiwr TGCh proffesiynol trefnus a brwdfrydig a bod gennych chi ddull hyblyg ac arloesol o wneud eich gwaith. Dylech fod â phrofiad da o ddatrysiadau llais ac yn gallu arddangos dull systematig a dadansoddol ar gyfer datrys problemau. Byddwch hefyd yn gallu blaenoriaethu llwyth gwaith a meddiannu’r tasgau a phrosiectau a roddir i chi. Byddwch yn meddu ar sgiliau cyfathrebu gwych ac yn mwynhau bod yn rhan o dîm llwyddiannus.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn
ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan
ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd
ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a
gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Peter Grimley |
Ffôn: | 01978 292352 |
Cyfeiriad e-bost: | Peter.Grimley@wrexham.gov.uk |