Gweithiwr Camddefnyddio Sylweddau Pobl Ifanc
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Dros Dro |
Categori: | Addysg ac Ymyrraeth Gynnar |
Dyddiad Cau: | 14/05/2023 |
Dyddiad Postio: | 02/05/2023 |
Cyfeirnod: | 07465 |
Disgrifiad
Gweithiwr
Camddefnyddio Sylweddau Pobl Ifanc
Lefel
Broffesiynol J.N.C. Ystod Pwyntiau 16-19:
Tîm Cyffuriau
ac Alcohol Pobl Ifanc in2Change - Siop Wybodaeth, Stryt y Lampint, Wrecsam
Dros Dro tan 31
Mawrth 2024
37 awr yr
wythnos
Mae’r Adran
Addysg ac Ymyrraeth Gynnar yn dymuno penodi Gweithiwr Ieuenctid brwdfrydig iawn
i gefnogi pobl ifanc i hwyluso eu datblygiad personol, cymdeithasol ac
addysgiadol. Mae’r swydd hon yn rhan o
dîm cyffuriau ac alcohol pobl ifanc in2change ac mae’n cefnogi pobl ifanc rhwng
11 a 25 oed sy’n defnyddio neu sydd wedi defnyddio cyffuriau ac alcohol. Mae’n
chwarae rôl bwysig wrth gefnogi pobl ifanc gydag ymyraethau ar sail un i un, yn
ogystal â chyflwyno gweithgareddau atal mewn ysgolion a chlybiau ieuenctid.
I gael sgwrs
anffurfiol am y swydd, cysylltwch â Sara Tompkin, Uwch Ymarferydd Lles
Rhif ffôn:
07803 022159 neu e-bost: sara.tompkin@wrexham.gov.uk
Oherwydd cyllid
contract dros dro yw hwn a’r dyddiad terfyn yw 31 Mawrth 2024.
Mae angen
gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Cyngor y Gweithlu
Addysg ar gyfer y swydd hon.
Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag yw eu hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.
Mae'r Cyngor yn
ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan
ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd
ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a
gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Sara Tompkin |
Ffôn: | 07803 022159 |
Cyfeiriad e-bost: | Sara.Tompkin@wrexham.gov.uk |