Neidio i'r Prif Gynnwys

Prif Dudalen Lywio

Hafan Cofrestru Sut i wneud cais Cymraeg English

Swyddog Gofal Preswyl i Blant

Manylion Swydd Wag


Crynodeb
Grŵp Swydd Wag: Llawn Amser Parhaol
Categori: Gofal Cymdeithasol
Dyddiad Cau:
Dyddiad Postio: 15/11/2024
Cyfeirnod: 07737

Disgrifiad

 

G07 £30,559 - £32,115 y flwyddyn

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi ymrwymo i ddatblygu ac ehangu ein gwasanaethau preswyl i blant. Rydym yn agor cartrefi bychain 2/3 ystafell wely yn ardal Wrecsam a’r cyffiniau. 

Rydym yn chwilio am nifer o Swyddogion Gofal Plant Preswyl sy’n frwd dros wneud gwahaniaeth go iawn.

Fel Swyddog Gofal Plant Preswyl, byddwch yn ymuno â’n tîm gwych ar y daith hon i annog a grymuso ein plant a’n pobl ifanc eithriadol i fagu eu hunanhyder, eu hunan-barch, eu ffydd ynddyn nhw eu hunain a’u hymdeimlad o werth.

Rydym yn annog ein pobl ifanc i fod yn uchelgeisiol. Mae gennym ni ddisgwyliadau uchel ar gyfer pob un o’n pobl ifanc. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth i fynd ati i geisio eu barn a buddsoddi ynddyn nhw, gan mai nhw yw ein dyfodol ni.

Swyddi amrywiol ar gael, yn cynnwys rhai llawn amser a rhan-amser, a swyddi gwasanaeth effro drwy'r nos.

 

Os nad oes gennych y cymhwyster Lefel 3 ar hyn o bryd, bydd ceisiadau’n parhau i gael eu hystyried gan y bydd cyfle i ennill y cymhwyster ar ôl y penodiad.

Os hoffech chi ragor o wybodaeth, cysylltwch â Emma Rees ar e-bost Childrenssocialcare.Recruitment@wrexham.gov.uk neu dros y ffôn - 07721 676450.

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.

Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys waeth beth fo’u hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, credoau crefyddol neu oedran.

Mee’r Cyngor yn datblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ymgeiswyr sy’n gallu gweithio yn Gymraeg a Saesneg. Ni fydd ceisiadau yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflynwyd mewn Saesneg.

           

 

 

 

 

Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:

Cysylltiadau
Cyswllt 1
Enw'r cyswllt: Emma Rees
Ffôn: 07721676450
Cyfeiriad e-bost: Childrenssocialcare.Recruitment@wrexham.gov.uk

Llywio Cyfrif

Heb Gofrestru?

  • Trwy gofrestru, byddwch yn gallu cadw gwybodaeth bersonol sy'n arbed amser pan fyddwch yn cofnodi'ch manylion, mae'n gadael ichi wneud cais am swyddi a rheoli'ch ceisiadau am swydd.
  • Cofrestrwch Nawr