Rheolwr Gweithrediadau a Marchnad Tŷ Pawb
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Economi a Cynllunio |
Dyddiad Cau: | 03/03/2024 |
Dyddiad Postio: | 16/02/2024 |
Cyfeirnod: | 08086 |
Disgrifiad
Rheolwr Gweithrediadau a Marchnadoedd Tŷ Pawb
Graddfa 10 £39,186 - £42,403 Y flwyddyn
Mae hon yn swydd llawn amser, yn gweithio 37 awr yr wythnos dros 5 diwrnod gan gynnwys dyddiau Sadwrn
Mae cyfle cyffrous i reoli tîm deinamig yn un o drysorau Canol Dinas Wrecsam.
Mae Tŷ Pawb yn adnodd cymunedol diwylliannol sydd wedi
ennill sawl gwobr, sy’n dod â'r celfyddydau a’r marchnadoedd ynghyd yn yr un
lle. Mae’r cydfodoli hwn yn dathlu arwyddocâd marchnadoedd yn nhreftadaeth a
hunaniaeth ddiwylliannol Wrecsam.
Byddwch yn gyfrifol am reolaeth weithredol yr adeilad, am reoli masnachwyr marchnad a thenantiaid masnach, am gydlynu materion atgyweirio a chynnal a chadw a rheoli gwastraff sy’n gysylltiedig â’r gweithrediadau yn yr adeilad, a rheoli Tîm Gweithredol Tŷ Pawb i ddarparu gwasanaeth llwyddiannus. Mae angen cydymffurfio â chanllawiau iechyd a diogelwch gan gyflawni’r holl ddyletswyddau sy’n gysylltiedig â bod yn ‘Swyddog Cyfrifol’ ar gyfer yr adeilad.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Lauren hammond |
Ffôn: | 01978 292419 |
Cyfeiriad e-bost: | lauren.hammond@wrexham.gov.uk |