Neidio i'r Prif Gynnwys

Prif Dudalen Lywio

Hafan Cofrestru Sut i wneud cais Cymraeg English

Rheolwr Tîm Cynorthwyol – Tîm Un Pwynt Mynediad

Manylion Swydd Wag


Crynodeb
Grŵp Swydd Wag: Llawn Amser Parhaol
Categori: Gofal Cymdeithasol
Dyddiad Cau: 01/12/2024
Dyddiad Postio: 18/11/2024
Cyfeirnod: 08599

Disgrifiad

G11 £44,711- £47,754  y flwyddyn

Y Tîm Un Pwynt Mynediad plant yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer yr adran gan dderbyn ceisiadau am wybodaeth, a rhoi cyngor a chymorth i gefnogi plant a theuluoedd ac ymchwilio i bryderon diogelu. Tîm aml asiantaeth yw Un Pwynt Mynediad sydd yn dod â gweithwyr allweddol ynghyd er mwyn rhannu gwybodaeth yn gynnar i gefnogi teuluoedd ac i ddiogelu plant. Caiff hyn ei gyflawni trwy gasglu gwybodaeth gan asiantaethau gwahanol er mwyn dylanwadu ar ymyraethau i gyflawni'r canlyniadau gorau i blant. 


Mae Gweithwyr Cymdeithasol a Rheolwyr Un Pwynt Mynediad angen sgiliau cyfathrebu ardderchog, profiad perthnasol, yn ogystal â chymhelliant ac angerdd i gefnogi teuluoedd a gwella canlyniadau i blant.  Fe fydd disgwyl i chi ymateb i anghenion plant a’u teuluoedd o fewn canllawiau, polisïau a safonau statudol, gan sicrhau fod eu diogelwch a’u lles yn hollbwysig. 


  Yn gyfnewid rydym yn cynnig,

•    Gorchwyliaeth a chefnogaeth gadarn

•    Mynediad at becyn adleoli o hyd at £5,000.
•    Mynediad i hyfforddiant parhaus achyfleoedd datblygiad proffesiynol
•    Cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith gan gynnwys gweithio hyblyg a gweithio ystwyth
•    Amgylchedd swyddfa cynllun agored ar ei newydd wedd gyda chyfleusterau rhagorol
•    Cynllun pensiwm Llywodreaeth Lleol.
•    Gwasanaeth iechyd galwedigaethol
•    Themau seiclo i’r gwaith. 


I gael rhagor o wybodaeth am y swydd, cysylltwch â Kate Brooks neu Einir Davies, Rheolwyr Tîm ar 01978 292039 neu e-bostiwch kate.brooks@wrexham.gov.uk neu Einir.davies@wrexham.gov.uk 

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.

Nid ydym yn noddwr trwyddedig â’r Swyddfa Gartref ar hyn o bryd, fellyyn anffodus, ni allwn noddi ymgeisydd a fydd angen fisa i ymgymryd â’r rôl hon.


Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.


Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg. 

Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:

Cysylltiadau
Cyswllt 1
Enw'r cyswllt: Kate Brooks
Ffôn: 01978 292039
Cyfeiriad e-bost: kate.brooks@wrexham.gov.uk
Cyswllt 2
Enw'r cyswllt: Einir Davies
Ffôn: 01978 295501
Cyfeiriad e-bost: Einir.davies@wrexham.gov.uk

Llywio Cyfrif

Heb Gofrestru?

  • Trwy gofrestru, byddwch yn gallu cadw gwybodaeth bersonol sy'n arbed amser pan fyddwch yn cofnodi'ch manylion, mae'n gadael ichi wneud cais am swyddi a rheoli'ch ceisiadau am swydd.
  • Cofrestrwch Nawr