Rheolwr Tîm Cynorthwyol – Tîm Un Pwynt Mynediad
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Cau: | 01/12/2024 |
Dyddiad Postio: | 18/11/2024 |
Cyfeirnod: | 08599 |
Disgrifiad
G11 £44,711- £47,754 y flwyddyn
Y Tîm Un Pwynt Mynediad plant yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer yr adran gan dderbyn ceisiadau am wybodaeth, a rhoi cyngor a chymorth i gefnogi plant a theuluoedd ac ymchwilio i bryderon diogelu. Tîm aml asiantaeth yw Un Pwynt Mynediad sydd yn dod â gweithwyr allweddol ynghyd er mwyn rhannu gwybodaeth yn gynnar i gefnogi teuluoedd ac i ddiogelu plant. Caiff hyn ei gyflawni trwy gasglu gwybodaeth gan asiantaethau gwahanol er mwyn dylanwadu ar ymyraethau i gyflawni'r canlyniadau gorau i blant.
Mae Gweithwyr Cymdeithasol a Rheolwyr Un Pwynt Mynediad angen sgiliau cyfathrebu ardderchog, profiad perthnasol, yn ogystal â chymhelliant ac angerdd i gefnogi teuluoedd a gwella canlyniadau i blant. Fe fydd disgwyl i chi ymateb i anghenion plant a’u teuluoedd o fewn canllawiau, polisïau a safonau statudol, gan sicrhau fod eu diogelwch a’u lles yn hollbwysig.
Yn gyfnewid rydym yn cynnig,
• Gorchwyliaeth a chefnogaeth gadarn
• Mynediad at becyn adleoli o hyd at £5,000.
• Mynediad i hyfforddiant parhaus achyfleoedd datblygiad proffesiynol
• Cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith gan gynnwys gweithio hyblyg a gweithio ystwyth
• Amgylchedd swyddfa cynllun agored ar ei newydd wedd gyda chyfleusterau rhagorol
• Cynllun pensiwm Llywodreaeth Lleol.
• Gwasanaeth iechyd galwedigaethol
• Themau seiclo i’r gwaith.
I gael rhagor o wybodaeth am y swydd, cysylltwch â Kate Brooks neu Einir Davies, Rheolwyr Tîm ar 01978 292039 neu e-bostiwch kate.brooks@wrexham.gov.uk neu Einir.davies@wrexham.gov.uk
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.
Nid ydym yn noddwr trwyddedig â’r Swyddfa Gartref ar hyn o bryd, fellyyn anffodus, ni allwn noddi ymgeisydd a fydd angen fisa i ymgymryd â’r rôl hon.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Kate Brooks |
Ffôn: | 01978 292039 |
Cyfeiriad e-bost: | kate.brooks@wrexham.gov.uk |
Cyswllt 2 | |
Enw'r cyswllt: | Einir Davies |
Ffôn: | 01978 295501 |
Cyfeiriad e-bost: | Einir.davies@wrexham.gov.uk |