Gweithiwr Cymdeithasol - Tîm Asesu ac Ymyrryd
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Cau: | 01/12/2024 |
Dyddiad Postio: | 18/11/2024 |
Cyfeirnod: | 08602 |
Disgrifiad
Ydych chi’n Weithiwr Cymdeithasol sydd yn chwilio am her newydd i wella bywydau pobl - os ydi hyn yn apelio i chi, yna does dim rhaid edrych ymhellach!
Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gyfle cyffrous o fewn ein tîm Asesu ac Ymyrryd fel gweithiwr cymdeithasol.
Rydym ni’n chwilio am unigolyn sydd yn ymrwymedig i ganlyniadau plant a phobl ifanc, sydd yn wrth-wahaniaethol ac yn wrthormesol ac a fydd y eirioli dros blant a phobl ifanc. Bydd angen i chi fod yn llawn cymhelliant a bydd gennych sgiliau asesu da. Os ydi hyn yn apelio i chi, yna fe garem glywed gennych chi.
Mae Wrecsam yn lle gwerth chweil i weithio, mae gennym oriau amrywiol ar gael, ac mae’r cyfan yn cael ei gynnig ar gontractau parhaol. Yn gyfnewid, byddwch yn derbyn cyflog cystadleuol £37,035 - £39,513, pensiwn awdurdod lleol deniadol, cyfle i ddatblygu i fod yn weithiwr cymdeithasol profiadol, ar yr amod eich bod yn cyrraedd meini prawf penodol, a chymelldaliad recriwtio o £2,996.
Pam ymuno â’r Tîm Asesu ac Ymyrryd fel Gweithiwr Cymdeithasol Plant?
Tîm Gwaith Cymdeithasol yw’r Tîm Asesu acYmyrryd sydd yn cynnal asesiadau cynhwysfawr gyda theuluoedd allai fod yn wynebu anawsterau. Mae’r tîm hefyd yn cwblhau pob ymholiad amddiffyn plant cychwynnol i’r adran ac yn asesu’r teulu. Trwy gydol eu gwaith mae’r Tîm Asesu ac Ymyrryd wedi ymrwymo i hyrwyddo canlyniadau cadarnhaol i’r bobl ifanc a theuluoedd maent yn gweithio â nhw. Rydym yn gweithio’n galed i gadw teuluoedd gyda’i gilydd, ond rydym yn cymryd camau pan fo angen er mwyn sicrhau diogelwch tymor canolig a hir dymor plant.
Rydym yn cynnal ciniawau a digwyddiadau dathlu aelodau’r tîm yn rheolaidd, o benblwyddi i seibiant mamolaeth a dyrchafiadau staff. Rydym yn rhagweithiol yn yr adran gan greu ymdeimlad o gymuned ac rydym ni’n cynnal digwyddiadau codi arian yn rheolaidd i helpu achosion lleol ac arbennig. Rydym ni’n gwerthfawrogi aelodau ein tîm a’u gwaith caled tuag at gontinwwm datblygu a chynnydd y tîm. Rydym yn cynnal cyfarfodydd tîm, goruchwyliaeth a thrafodaethau anffurfiol pwysig iawn yn rheolaidd. Mae’r rhain yn galluogi staff i ymlacio a chefnogi ei gilydd yn emosiynol drwy siarad am unrhyw achosion anodd y maent yn dod ar eu traws.
Rydym yn cydnabod bod iechyd, diogelwch a lles o ansawdd dda yn rhan annatod o gydbwysedd bywyd-gwaith iach ac rydym yn falch o greu amgylchedd cadarnhaol lle gall Gweithwyr Cymdeithasol gyflawni canlyniadau ystyriol ac sy’n cael effaith.
Buddion ychwanegol y byddwch yn eu derbyn fel Gweithiwr Cymdeithasol Plant
· Hyd at 31 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn
· Mynediad at becyn ad-leoli hyd at £5,000
· Opsiynau gweithio’n hyblyg a’n hymrwymiad i gefnogi iechyd a lles.
· Rhaglen ymgynefino fanwl
· Rhaglen cymorth i weithwyr
Mae’r rôl hwn yn cefnogi gweithio’n hybrid, cydbwysedd rhwng gweithio gartref a gweithio mewn swyddfa.
Mae’r swydd Gweithiwr Cymdeithasol yn y Tîm Asesu ac Ymyrryd yn derbyn cymelldaliad recriwtio o £2,996 fel croeso i’r Cyngor.
Mae’r taliad yma’n pro rata ar gyfer gweithwyr rhan amser. Mae’r taliad yn destun didyniadau gweithiwr arferol e.e. pensiwn, Yswiriant Gwladol a Threth ac mae amodau a thelerau eraill yn berthnasol, gweler y nodyn Canllawiau Taliadau Recriwtio a Chadw Staff i gael rhagor o fanylion.
Gweler ein buddion i weithwyr sydd ar gael tra’n gweithio i’r Cyngor os yw eich cais yn llwyddiannus (Working for us | Wrexham County Borough Council)
Nid ydym yn noddwr trwyddedig â’r Swyddfa Gartref ar hyn o bryd, fellyyn anffodus, ni allwn noddi ymgeisydd a fydd angen fisa i ymgymryd â’r rôl hon.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Sarah J Gray |
Ffôn: | 01978 292503 |
Cyfeiriad e-bost: | sarahj.gray@wrexham.gov.uk |