Neidio i'r Prif Gynnwys

Prif Dudalen Lywio

Hafan Cofrestru Sut i wneud cais Cymraeg English

Rheolwr Tîm Cynorthwyol - Tîm Asesu ac Ymyrryd

Manylion Swydd Wag


Crynodeb
Grŵp Swydd Wag: Llawn Amser Parhaol
Categori: Gofal Cymdeithasol
Dyddiad Cau: 01/12/2024
Dyddiad Postio: 18/11/2024
Cyfeirnod: 08603

Disgrifiad

G11 £44,711 - £47,754

Rheolwyr Tîm Cynorthwyol (Gofal Cymdeithasol Plant)

Mae cyfleoedd ar gael o fewn timau Gweithiwr Cymdeithasol y Tîm Asesu ac Ymyrraeth (TAY) ar gyfer Rheolwyr Tîm Cynorthwyol . Mae Cyngor Wrecsam yn cefnogi hybrid a bydd hyn ar gael i ymgeiswyr llwyddiannus trwy drafodaeth gyda’u rheolwr wrth ystyried anghenion y gwasanaeth. Rhaid i ymgeiswyr feddu ar Radd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster cyfwerth. 

Mae’r swydd yn y ddau dîm yn golygu rheoli a goruchwylio tîm o weithwyr cymdeithasol gan gyflawni bob agwedd ar ofal a chefnogaeth, amddiffyn plant, ymholiadau adran 47 a gwasanaethau cymorth i deuluoedd, gan gynnwys prosesau llys ac amlinelliad cyfraith gyhoeddus, i deuluoedd sydd wedi eu hasesu ac sydd angen gwasanaethau i ddiwallu anghenion plant diamddiffyn.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu cefnogi gan dîm sefydledig o Reolwyr Tîm a Phenaethiaid Gwasanaeth parhaol. Anogir datblygiad proffesiynol trwy ddarparu goruchwyliaeth a chymorth yn rheolaidd i fynychu hyfforddiant ôl-gymhwyso a rheoli. Byddwch yn gweithio mewn swyddfa sydd wedi ei hadnewyddu yng nghanol y dref.

Yn ddelfrydol rydym yn edrych am ymgeisydd hynod fedrus a llawn cymhelliant sydd â chefndir gofal plant cryf. Dylid cynnwys unrhyw brofiad rheoli neu sgiliau trosglwyddadwy y gallwch eu cynnig i’r swydd, y tîm a Gwasanaethau Plant Wrecsam.

Buddion ychwanegol y byddwch yn eu cael wrth weithio i ni:

·       Gwyliau blynyddol hael yn cychwyn o 25 diwrnod a hyd at 32 diwrnod y flwyddyn yn amodol ar wasanaeth parhaus

·       Mynediad at becyn adleoli o hyd at £5,000.

·       Opsiynau gweithio’n hyblyg a’n hymrwymiad i gefnogi iechyd a lles

·       Rhaglen ymgynefino fanwl

·       Rhaglen cymorth i weithwyr

·       Cynllun buddion i weithwyr gan gynnwys gostyngiadau manwerthu

·       Cynllun Beicio i’r Gwaith

Mae’r rôl hon yn cefnogi gweithio’n hybrid, sef cydbwysedd rhwng gweithio gartref a gweithio mewn swyddfa.

Mae’r swydd Rheolwr Tîm Cynorthwyol yn y Tîm Asesu ac Ymyrraeth cymelldaliad recriwtio o £2,996 fel croeso i’r Cyngor.

Mae’r taliad hwn yn un pro rata ar gyfer gweithwyr rhan amser. Mae’r taliad yn destun didyniadau gweithiwyr arferol e.e. pensiwn, Yswiriant Gwladol a Threth ac mae amodau a thelerau eraill ynberthnasol, gweler y nodyn canllaw Taliadau Recriwtio a Chadw Staff i gael rhagor o fanylion. 

Gweler y wybodaeth am y buddion fydd ar gael i chi fel un o weithwyr y Cyngor os bydd eich cais yn llwyddiannus (Gweithio i ni | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam)

I gael rhagor o wybodaeth neu drafodaeth anffurfiol cysylltwch ag sarahj.gray@wrexham.gov.uk  

 Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo’u hil, rhywedd, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg.  Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.

Nid ydym yn noddwr trwyddedig â’r Swyddfa Gartref ar hyn o bryd, felly yn anffodus, ni allwn noddi ymgeisydd a fydd angen fisa i ymgymryd â’r rôl hon. 

 

 

Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:

Cysylltiadau
Cyswllt 1
Enw'r cyswllt: Sarah Gray
Ffôn: 01978 292506
Cyfeiriad e-bost: SarahJ.Gray@wrexham.gov.uk

Llywio Cyfrif

Heb Gofrestru?

  • Trwy gofrestru, byddwch yn gallu cadw gwybodaeth bersonol sy'n arbed amser pan fyddwch yn cofnodi'ch manylion, mae'n gadael ichi wneud cais am swyddi a rheoli'ch ceisiadau am swydd.
  • Cofrestrwch Nawr