Rheolwr Tîm Cynorthwyol - Tîm Asesu ac Ymyrryd
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Cau: | 01/12/2024 |
Dyddiad Postio: | 18/11/2024 |
Cyfeirnod: | 08603 |
Disgrifiad
G11 £44,711 - £47,754
Rheolwyr Tîm Cynorthwyol (Gofal Cymdeithasol Plant)
Mae cyfleoedd ar gael o fewn timau Gweithiwr Cymdeithasol y Tîm Asesu ac Ymyrraeth (TAY) ar gyfer Rheolwyr Tîm Cynorthwyol . Mae Cyngor Wrecsam yn cefnogi hybrid a bydd hyn ar gael i ymgeiswyr llwyddiannus trwy drafodaeth gyda’u rheolwr wrth ystyried anghenion y gwasanaeth. Rhaid i ymgeiswyr feddu ar Radd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster cyfwerth.
Mae’r swydd yn y ddau dîm yn golygu rheoli a goruchwylio tîm o weithwyr cymdeithasol gan gyflawni bob agwedd ar ofal a chefnogaeth, amddiffyn plant, ymholiadau adran 47 a gwasanaethau cymorth i deuluoedd, gan gynnwys prosesau llys ac amlinelliad cyfraith gyhoeddus, i deuluoedd sydd wedi eu hasesu ac sydd angen gwasanaethau i ddiwallu anghenion plant diamddiffyn.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu cefnogi gan dîm sefydledig o Reolwyr Tîm a Phenaethiaid Gwasanaeth parhaol. Anogir datblygiad proffesiynol trwy ddarparu goruchwyliaeth a chymorth yn rheolaidd i fynychu hyfforddiant ôl-gymhwyso a rheoli. Byddwch yn gweithio mewn swyddfa sydd wedi ei hadnewyddu yng nghanol y dref.
Yn ddelfrydol rydym yn edrych am ymgeisydd hynod fedrus a llawn cymhelliant sydd â chefndir gofal plant cryf. Dylid cynnwys unrhyw brofiad rheoli neu sgiliau trosglwyddadwy y gallwch eu cynnig i’r swydd, y tîm a Gwasanaethau Plant Wrecsam.
Buddion ychwanegol y byddwch yn eu cael wrth weithio i ni:
· Gwyliau blynyddol hael yn cychwyn o 25 diwrnod a hyd at 32 diwrnod y flwyddyn yn amodol ar wasanaeth parhaus
· Mynediad at becyn adleoli o hyd at £5,000.
· Opsiynau gweithio’n hyblyg a’n hymrwymiad i gefnogi iechyd a lles
· Rhaglen ymgynefino fanwl
· Rhaglen cymorth i weithwyr
· Cynllun buddion i weithwyr gan gynnwys gostyngiadau manwerthu
· Cynllun Beicio i’r Gwaith
Mae’r rôl hon yn cefnogi gweithio’n hybrid, sef cydbwysedd rhwng gweithio gartref a gweithio mewn swyddfa.
Mae’r swydd Rheolwr Tîm Cynorthwyol yn y Tîm Asesu ac Ymyrraeth cymelldaliad recriwtio o £2,996 fel croeso i’r Cyngor.
Mae’r taliad hwn yn un pro rata ar gyfer gweithwyr rhan amser. Mae’r taliad yn destun didyniadau gweithiwyr arferol e.e. pensiwn, Yswiriant Gwladol a Threth ac mae amodau a thelerau eraill ynberthnasol, gweler y nodyn canllaw Taliadau Recriwtio a Chadw Staff i gael rhagor o fanylion.
Gweler y wybodaeth am y buddion fydd ar gael i chi fel un o weithwyr y Cyngor os bydd eich cais yn llwyddiannus (Gweithio i ni | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam)
I gael rhagor o wybodaeth neu drafodaeth anffurfiol cysylltwch ag sarahj.gray@wrexham.gov.uk
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo’u hil, rhywedd, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.
Nid ydym yn noddwr trwyddedig â’r Swyddfa Gartref ar hyn o bryd, felly yn anffodus, ni allwn noddi ymgeisydd a fydd angen fisa i ymgymryd â’r rôl hon.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Sarah Gray |
Ffôn: | 01978 292506 |
Cyfeiriad e-bost: | SarahJ.Gray@wrexham.gov.uk |