Neidio i'r Prif Gynnwys

Prif Dudalen Lywio

Hafan Cofrestru Sut i wneud cais Cymraeg English

Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol – Tîm Plant Sy'n Derbyn Gofal

Manylion Swydd Wag


Crynodeb
Grŵp Swydd Wag: Llawn Amser Parhaol
Categori: Gofal Cymdeithasol
Dyddiad Cau: 01/12/2024
Dyddiad Postio: 18/11/2024
Cyfeirnod: 08604

Disgrifiad

G10 £40,476 - £43,693 y flwyddyn

Os ydych yn weithiwr cymdeithasol profiadol, ymrwymedig, creadigol a gwydn, mae gennym gyfle cyffrous o fewn ein Tîm Plant sy’n Derbyn Gofal.

Rydym yn edrych am weithiwr cymdeithasol cymwys i gefnogi ein siwrnai wella barhaus tuag at arfer gorau, fel y dangoswyd o fewn ein harchwiliad cadarnhaol diweddar.

 Rydym eisiau rhywun sydd wedi ymrwymo i gyflawni newid i blant a phobl ifanc.   Yma yn Wrecsam rydym yn defnyddio’r dystiolaeth ddiweddaraf yn seiliedig ar dystiolaeth a gwaith uniongyrchol i gyflawni deilliannau cadarnhaol i blant - sy’n rhoi’r cyfle iddynt gyrraedd eu llawn botensial achael eu cadw’n ddiogel.  

O fewn y Tim Plant sy’n Derbyn Gofal rydym yn cynnig llwythi achosion wedi’u diogelu. Mae hyn yn rhoi cyfle i staff Gofal Cymdeithasol weithio’n agos gyda theuluoedd a phlant i gael effaith ar newid.    Yn ogystal, rydym yn cynnig gweithio’n hyblyg a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ardderchog gan gynnwys gweithio o bell. 

Mae Wrecsam yn lle gwerth chweil i weithio ble byddwch yn derbyn goruchwyliaeth ragorol a chefnogaeth gan y tîm rheoli.   Yn gyfnewid, byddwch yn derbyn cyflog cystadleuol o £40,476 - £43,693 y flwyddyn, pensiwn awdurdod lleol deniadol, gwyliau blynyddol â thâl, hyfforddiant a datblygiad gyrfa a chymelldaliad recriwtio a chadw staff o £5,992.

Pam ymuno â Thîm Plant sy’n Derbyn Gofal fel Gweithiwr Cymdeithasol Plant?

Mae’r Tîm Plant sy'n Derbyn Gofal yn cynnwys cymysgedd o Weithwyr Cymdeithasol profiadol, gweithwyr cymdeithasol newydd a Gweithwyr Cefnogi Teulu sydd i gyd yn cyfrannu at yr amgylchedd tîm cefnogol a gofalgar.  Mae cefnogaeth a mentora ychwanegol yn cael ei ddarparu gan Reolwr Tîm a thri Rheolwr Tîm Cynorthwyol profiadol. Rhagorol yw’r unig air i ddisgrifio’r swyddfa fawr, olau sy’n hwyluso gwaith tîm effeithiol lle mae pob tîm yn parchu ei gilydd ac yn cefnogi ei gilydd i wireddu’n gyd-weledigaeth o wella canlyniadau ar gyfer y plant y maent yn eu cefnogi yn Wrecsam.  Rydym yn adran gymharol fach gyda holl staff ar un llawr mewn un adeilad sy’n ei gwneud yn llawer haws i ffurfio perthnasoedd proffesiynol. 

Mae’r tîm Plant sy'n Derbyn Gofal yn cefnogi plant a phobl ifanc ble cytunwyd ar sefydlogrwydd drwy orchymyn llys wedi’i gytuno, mae hyn yn cynnwys gofalwr maeth hirdymor ac/neu ofal preswyl, lleoliad gyda rhieni a sefydlogrwydd drwy fabwysiadu.   Byddwch yn cymryd arweiniad i sicrhau yr ymgymerir â holl ofynion statudol, bydd hyn yn cynnwys ymweliadau, cyfarfodydd cynllunio gofal, adolygiadau Plant sy’n Derbyn Gofal, Cynllun Addysg Personol ac atgyfeiriadau asesiadau iechyd. Bydd ymgeisydd llwyddiannus angen sgiliau asesu ac ysgrifennu adroddiadau da a bod yn ddadansoddola phenderfynu’r ffordd orau i gefnogi’r bobl ifanc a phlant sy’n derbyn gofal ar eu llwyth achos.    

Rydym yn cydnabod bod iechyd, diogelwch a lles da yn rhan annatod o gydbwysedd bywyd-gwaith iach ac rydym yn falch o fod wedi creu amgylchedd cadarnhaol lle gall Gweithwyr Cymdeithasol wireddu canlyniadau ystyriol ac effeithiol.

Buddion ychwanegol y byddwch yn eu derbyn fel Gweithiwr Cymdeithasol Plant:

          Hyd at 32 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn

          Mynediad at becyn adleoli o hyd at £5,000.

          Opsiynau gweithio’n hyblyg a’n hymrwymiad i gefnogi iechyd a lles

          Rhaglen ymgynefino fanwl

          Rhaglen Cymorth i Weithwyr

Mae’r swydd Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol hon yn y Tîm Plant sy'n Derbyn Gofal yn denu cymelldaliad o £2,996 fel croeso i’r cyngor.  Mewn rhai amodau gall cymelldaliad cadw ychwanegol o £2,996 hefyd fod yn berthnasol ar ôl blwyddyn yn eich swydd os byddwch yn parhau yn y gwasanaeth mewn rôl/tîm cymwys.  Felly yn gwneud y cymelldaliad Recriwtio a Chadw o £5,992. 

Mae’r taliad hwn yn un pro rata ar gyfer gweithwyr rhan amser. Mae’r taliad yn destun didyniadau gweithiwyr arferol e.e. pensiwn, Yswiriant Gwladol a Threth ac mae amodau a thelerau eraill yn berthnasol, gweler y nodyn canllaw Taliadau Recriwtio a Chadw Staff i gael rhagor o fanylion. 

Bydd angen i chi gael gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.

Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo’u hil, rhywedd, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn y Gymraeg a’r Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yny Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

Nid ydym yn noddwr trwyddedig â’r Swyddfa Gartref ar hyn o bryd, felly yn anffodus, ni allwn noddi ymgeisydd a fydd angen fisa i ymgymryd â’r rôl hon.

Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:

Cysylltiadau
Cyswllt 1
Enw'r cyswllt: Rhian Thomas
Ffôn: 01978 295362
Cyfeiriad e-bost: Rhian.Thomas@wrexham.gov.uk

Llywio Cyfrif

Heb Gofrestru?

  • Trwy gofrestru, byddwch yn gallu cadw gwybodaeth bersonol sy'n arbed amser pan fyddwch yn cofnodi'ch manylion, mae'n gadael ichi wneud cais am swyddi a rheoli'ch ceisiadau am swydd.
  • Cofrestrwch Nawr