Neidio i'r Prif Gynnwys

Prif Dudalen Lywio

Hafan Cofrestru Sut i wneud cais Cymraeg English

Gweithiwr Cymdeithasol - Nhîm Gadael Gofal

Manylion Swydd Wag


Crynodeb
Grŵp Swydd Wag: Llawn Amser Parhaol
Categori: Gofal Cymdeithasol
Dyddiad Cau: 01/12/2024
Dyddiad Postio: 18/11/2024
Cyfeirnod: 08606

Disgrifiad

Gweithiwr Cymdeithasol
G09 Cyflog £37,035 - £39,513 y flwyddyn

Mae hon yn swydd lawn amser barhaol i weithiwr cymdeithasol yn Nhîm Gadael Gofal Wrecsam.
Byddwch wedi ymrwymo i rianta corfforaethol, ymarfer yn seiliedig ar berthnasoedd fel arweinydd canlyniadau a phontio cadarnhaol.  Bydd dulliau sy’n seiliedig ar drawma yn ganolbwynt i’ch ymarfer. Hefyd disgwylir i chi fodelu ymarfer gorau a mentora gweithwyr yn eich tîm. Byddwch yn ymuno â thîm sefydledig sy’n perfformio’n dda gyda chefnogaeth ardderchog. Rydym yn anelu i ddatblygu gwasanaeth hyd yn oed yn well yn dilyn ein hymweliad gan AGC yn 2024, cafodd y Tîm Gadael Gofal eu cydnabod ar gyfer y perthnasoedd cadarnhaol a ddatblygwyd rhwng gweithwyr cymdeithasol a’n pobl ifanc.  Rydym yn parhau i ddatblygu ein cryfderau a pharhau i ddatblygu tîm sy’n cynnwys:


•    Gweithlu angerddol a medrus sy’n galluogi rhai sy’n gadael gofal i wneud cynnydd da ac elwa o brofiadau cadarnhaol
•    Canolbwynt ar bontio effeithiol ar gyfer pobl ifanc rhwng 15 ac 18 oed gyda chefnogaeth i ddatblygu hyder a sgiliau bywyd i ymdrin â chyfleoedd a heriau bod yn oedolyn.
•    Sicrhau bod anghenion llety yn cael eu hystyried yn ofalus er mwyn i’r bobl ifanc deimlo’n ddiogel a bod eu dymuniadau o ran lleoliad yn cael eu parchu er mwyn iddynt gynnal perthnasoedd gyda phobl sy’n bwysig iddynt
•    Mynediad at nifer o ddarpariaethau camu i lawr mewnol ar gyfer y rhai sy’n gadael gofal gyda’r nod o ddatblygu mwy o ddarpariaethau 
•    Mae canolbwynt clir ar addysg, cyflogaeth a hyfforddiant wedi eu dylunio i helpu pobl ifanc o bob gallu i ddewis y llwybr priodol i wneud y mwyaf o’u cyfleoedd pan fônt yn gadael gofal
Beth fyddwch chi’n ei wneud?
•    Darparu gwasanaeth gwaith cymdeithasol o safon sy’n cefnogi plant i gyflawni eu potensial a phontio’n llwyddiannus i fyw bywyd fel oedolyn.
•    Rheoli nifer o bobl ifanc yn effeithiol i gyflawni’r canlyniadau gorau iddynt.
•    Modelu ymarfer gorau a mentora eraill.
•    Dangos ymrwymiad cadarn i rianta corfforaethol.
•    Gweithio mewn partneriaeth gyda phlant a phobl ifanc a chynnal perthnasoedd, adnabod anghenion, a datblygu cynlluniau ac ymatebion sy’n bodloni’r anghenion hynny.
Pa sgiliau a phrofiad ydych eu hangen?  
•    Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol ac wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ar hyn o bryd (cyfeiriwch at y swydd ddisgrifiad a’r manylion am yr unigolyn i gael mwy o wybodaeth).
•    Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol, gydag agwedd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn o ran datblygu cysylltiad a pherthnasoedd gyda phlant a theuluoedd.
•    Gallu myfyrio ar ymarfer a datblygiad eich hun gan alluogi ymarfer gwaith cymdeithasol hyblyg a meddylgar a newid cadarnhaol.
•    Profiad o waith cymdeithasol sy’n canolbwyntio ar berthynas.

Yn Wrecsam credwn y dylid gwobrwyo gwaith caled ac ymrwymiad i’ch swydd, felly rydym yn cynnig pecyn i’n gweithwyr cymdeithasol a fydd yn sicrhau eich bod bob amser yn teimlo eich bod yn cael eich cefnogi a’ch gwerthfawrogi:


•   Mynediad at becyn adleoli o hyd at £5,000.

•  Llwythi achos y gellir ymdopi â nhw
•    Swyddfeydd wedi eu hadnewyddu
•    Rheolwyr gweledol, cefnogol a phenderfynol.
•    Ystod eang o ddyraniadau sy’n darparu gyrfa gyffrous, heriol a llawn gwobr
•    Arweinyddiaeth a rheolaeth effeithiol sy’n helpu i ostwng y risg i’n gweithwyr cymdeithasol a’r plant a theuluoedd a gefnogant.
•    Goruchwyliaeth ardderchog a rhwydwaith cyfoedion cefnogol
•    Mynediad at ystod ardderchog o gyfleoedd hyfforddiant a datblygiad.


Os hoffech siarad gyda rhywun yn anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â’r Rheolwr Tîm; kim.stewart@wrexham.gov.uk 


Pa fuddion ydym yn eu cynnig i chi?
•    Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol 
•    Gwyliau blynyddol a chynllun oriau hyblyg hael
•    Treuliau teithio 
•    Gwasanaeth iechyd galwedigaethol
•    Cynllun beicio i’r gwaith


Oherwydd bod y swydd hon yn golygu cyswllt â phlant a/neu oedolion diamddiffyn, bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Ni fydd cofnod troseddol o reidrwydd yn atal ymgeisydd rhag cael y swydd hon, gan fod pob achos yn cael ei ystyried yn unigol yn ôl natur y swydd a’r wybodaeth a ddarperir.  

Nid ydym yn noddwr trwyddedig â’r Swyddfa Gartref ar hyn o bryd, fellyyn anffodus, ni allwn noddi ymgeisydd a fydd angen fisa i ymgymryd â’r rôl hon.


Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.


Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:

Cysylltiadau
Cyswllt 1
Enw'r cyswllt: Kim Stewart
Ffôn: 01978 295610
Cyfeiriad e-bost: kim.stewart@wrexham.gov.uk

Llywio Cyfrif

Heb Gofrestru?

  • Trwy gofrestru, byddwch yn gallu cadw gwybodaeth bersonol sy'n arbed amser pan fyddwch yn cofnodi'ch manylion, mae'n gadael ichi wneud cais am swyddi a rheoli'ch ceisiadau am swydd.
  • Cofrestrwch Nawr