Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol - Nhîm Gadael Gofal
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Cau: | 01/12/2024 |
Dyddiad Postio: | 18/11/2024 |
Cyfeirnod: | 08607 |
Disgrifiad
Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol
G10 Cyflog £40,476 - £43,693 y flwyddyn
Mae hon yn swydd lawn amser barhaol i weithiwr cymdeithasol profiadol yn Nhîm Gadael Gofal Wrecsam.
Byddwch wedi ymrwymo i rianta corfforaethol, ymarfer yn seiliedig ar berthnasoedd fel arweinydd canlyniadau a phontio cadarnhaol. Bydd dulliau sy’n seiliedig ar drawma yn ganolbwynt i’ch ymarfer. Hefyd disgwylir i chi fodelu ymarfer gorau a mentora gweithwyr yn eich tîm. Byddwch yn ymuno â thîm sefydledig sy’n perfformio’n dda gyda chefnogaeth ardderchog. Rydym yn anelu i ddatblygu gwasanaeth hyd yn oed yn well yn dilyn ein hymweliad gan AGC yn 2024, cafodd y Tîm Gadael Gofal eu cydnabod ar gyfer y perthnasoedd cadarnhaol a ddatblygwyd rhwng gweithwyr cymdeithasol a’n pobl ifanc. Rydym yn parhau i ddatblygu ein cryfderau a pharhau i ddatblygu tîm sy’n cynnwys:
• Gweithlu angerddol a medrus sy’n galluogi rhai sy’n gadael gofal i wneud cynnydd da ac elwa o brofiadau cadarnhaol
• Canolbwynt ar bontio effeithiol ar gyfer pobl ifanc rhwng 15 ac 18 oed gyda chefnogaeth i ddatblygu hyder a sgiliau bywyd i ymdrin â chyfleoedd a heriau bod yn oedolyn.
• Sicrhau bod anghenion llety yn cael eu hystyried yn ofalus er mwyn i’r bobl ifanc deimlo’n ddiogel a bod eu dymuniadau o ran lleoliad yn cael eu parchu er mwyn iddynt gynnal perthnasoedd gyda phobl sy’n bwysig iddynt
• Mynediad at nifer o ddarpariaethau camu i lawr mewnol ar gyfer y rhai sy’n gadael gofal gyda’r nod o ddatblygu mwy o ddarpariaethau
• Mae canolbwynt clir ar addysg, cyflogaeth a hyfforddiant wedi eu dylunio i helpu pobl ifanc o bob gallu i ddewis y llwybr priodol i wneud y mwyaf o’u cyfleoedd pan fônt yn gadael gofal
Beth fyddwch chi’n ei wneud?
• Darparu gwasanaeth gwaith cymdeithasol o safon sy’n cefnogi plant i gyflawni eu potensial a phontio’n llwyddiannus i fyw bywyd fel oedolyn.
• Rheoli nifer o bobl ifanc yn effeithiol i gyflawni’r canlyniadau gorau iddynt.
• Modelu ymarfer gorau a mentora eraill.
• Dangos ymrwymiad cadarn i rianta corfforaethol.
• Gweithio mewn partneriaeth gyda phlant a phobl ifanc a chynnal perthnasoedd, adnabod anghenion, a datblygu cynlluniau ac ymatebion sy’n bodloni’r anghenion hynny.
Pa sgiliau a phrofiad ydych eu hangen?
• Gradd mewn Gwaith Cymdeithasol ac wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ar hyn o bryd (cyfeiriwch at y swydd ddisgrifiad a’r manylion am yr unigolyn i gael mwy o wybodaeth).
• Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol, gydag agwedd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn o ran datblygu cysylltiad a pherthnasoedd gyda phlant a theuluoedd.
• Gallu myfyrio ar ymarfer a datblygiad eich hun gan alluogi ymarfer gwaith cymdeithasol hyblyg a meddylgar a newid cadarnhaol.
• Profiad o waith cymdeithasol sy’n canolbwyntio ar berthynas.
Yn Wrecsam credwn y dylid gwobrwyo gwaith caled ac ymrwymiad i’ch swydd, felly rydym yn cynnig pecyn i’n gweithwyr cymdeithasol a fydd yn sicrhau eich bod bob amser yn teimlo eich bod yn cael eich cefnogi a’ch gwerthfawrogi:
• Mynediad at becyn adleoli o hyd at £5,000.
• Llwythi achos y gellir ymdopi â nhw
• Swyddfeydd wedi eu hadnewyddu
• Rheolwyr gweledol, cefnogol a phenderfynol.
• Ystod eang o ddyraniadau sy’n darparu gyrfa gyffrous, heriol a llawn gwobr
• Arweinyddiaeth a rheolaeth effeithiol sy’n helpu i ostwng y risg i’n gweithwyr cymdeithasol a’r plant a theuluoedd a gefnogant.
• Goruchwyliaeth ardderchog a rhwydwaith cyfoedion cefnogol
• Mynediad at ystod ardderchog o gyfleoedd hyfforddiant a datblygiad.
Os hoffech siarad gyda rhywun yn anffurfiol am y swydd hon, cysylltwch â’r Rheolwr Tîm; kim.stewart@wrexham.gov.uk
Pa fuddion ydym yn eu cynnig i chi?
• Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
• Gwyliau blynyddol a chynllun oriau hyblyg hael
• Treuliau teithio
• Gwasanaeth iechyd galwedigaethol
• Cynllun beicio i’r gwaith
Oherwydd bod y swydd hon yn golygu cyswllt â phlant a/neu oedolion diamddiffyn, bydd angen i’r ymgeisydd llwyddiannus gael gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Ni fydd cofnod troseddol o reidrwydd yn atal ymgeisydd rhag cael y swydd hon, gan fod pob achos yn cael ei ystyried yn unigol yn ôl natur y swydd a’r wybodaeth a ddarperir.
Nid ydym yn noddwr trwyddedig â’r Swyddfa Gartref ar hyn o bryd, fellyyn anffodus, ni allwn noddi ymgeisydd a fydd angen fisa i ymgymryd â’r rôl hon.
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Kim Stewart |
Ffôn: | 01978 295610 |
Cyfeiriad e-bost: | kim.stewart@wrexham.gov.uk |