Neidio i'r Prif Gynnwys

Prif Dudalen Lywio

Hafan Cofrestru Sut i wneud cais Cymraeg English

Gweithwr Cymdeithasol Profiadol - Tîm ar gyfer Pobl Hŷn

Manylion Swydd Wag


Crynodeb
Grŵp Swydd Wag: Llawn Amser Parhaol
Categori: Gofal Cymdeithasol
Dyddiad Cau: 01/12/2024
Dyddiad Postio: 18/11/2024
Cyfeirnod: 08608

Disgrifiad

Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol

G10 £40,476 - £43,693 y flwyddyn (yn dibynnu ar sgiliau a phrofiad perthnasol)

Parhaol

Mae gan y Tîm ar gyfer Pobl HÅ·n gyfle cyffrous i Weithiwr Cymdeithasol ymuno â thîm arloesol a blaengar.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cyfrannu at ddull aml-asiantaeth y tîm, gan ddarparu gwasanaeth iechyd, gofal cymdeithasol a lles di-dor ar gyfer pobl hyn, eu teuluoedd a’u gofalwyr. Byddwch yn gweithio gydag unigolion er mwyn iddynt allu adnabod eu canlyniadau personol. Bydd eich gwaith yn canolbwyntio ar yr unigolyn a’u rhwydweithiau cefnogaeth gan gynnwys teuluoedd i hyrwyddo annibyniaeth a sicrhau bod gan yr unigolyn lais cryfach wrth wneud penderfyniadau a mwy o reolaeth yn eu bywydau. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Galluedd Meddyliol 2005 yn darparu fframweithiau deddfwriaethol i sicrhau bod y tîm yn cydymffurfio â dyletswyddau statudol a bod unigolion yn cael eu cefnogi i gyflawni canlyniadau cadarnhaol.   

 Hoffai’r tîm ddenu Gweithwyr Cymdeithasol llawn cymhelliant gydag unrhyw lefel o brofiad.  I fod yr unigolyn cywir ar gyfer y swydd hon, bydd gennych sgiliau cyfathrebu ardderchog, profiad o weithio mewn tîm, profiad blaenorol o weithio gydag oedolion diamddiffyn a'r gallu i ymateb yn briodol i anghenion pobl hÅ·n wrth gadw at ganllawiau, polisïau a safonau statudol. Mae’r Tîm ar gyfer Pobl HÅ·n yn gweithio’n agos gydag asiantaethau partner i gefnogi a hyrwyddo gadael yr ysbyty yn ddiogel ac yn amserol, felly byddai profiad o weithio amlddisgyblaethol yn fanteisiol.

 Yn gyfnewid rydym yn cynnig:

·       Goruchwyliaeth a chefnogaeth rheoli gadarn

  •        Mynediad at becyn adleoli o hyd at £5,000.

·       Cefnogaeth wych i gydweithwyr a morâl tîm cadarnhaol, gan gynnwys cefnogaeth mentor i weithwyr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso.

·       Mynediad i gyfleoedd hyfforddi a datblygu parhaus

·       Cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, gan gynnwys gweithio’n hyblyg a rhannu swydd

·       Llwyth achos y gellir ymdopi ag o.

Sylwch nad allwn ni gyflwyno tystysgrifau nawdd.

I gael ymholiadau pellach am y swydd, cysylltwch â Amanda Squire, Rheolwr Tîm ar 07802 378674 neu e-bost Amanda.Squire@wrexham.gov.uk

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.

Nid ydym yn noddwr trwyddedig â’r Swyddfa Gartref ar hyn o bryd, fellyyn anffodus, ni allwn noddi ymgeisydd a fydd angen fisa i ymgymryd â’r rôl hon.

Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

 

Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:

Cysylltiadau
Cyswllt 1
Enw'r cyswllt: Amanda Squire
Ffôn: 07802378674
Cyfeiriad e-bost: Amanda.Squire@wrexham.gov.uk

Llywio Cyfrif

Heb Gofrestru?

  • Trwy gofrestru, byddwch yn gallu cadw gwybodaeth bersonol sy'n arbed amser pan fyddwch yn cofnodi'ch manylion, mae'n gadael ichi wneud cais am swyddi a rheoli'ch ceisiadau am swydd.
  • Cofrestrwch Nawr