Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol - Tîm Anabledd
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Cau: | 01/12/2024 |
Dyddiad Postio: | 18/11/2024 |
Cyfeirnod: | 08610 |
Disgrifiad
Cyflog G10 £40,476 - £43,693 y flwyddyn
(yn dibynnu ar sgiliau a phrofiad perthnasol)
Mae gan y Tîm Anabledd Pob Oedran gyfle cyffrous i weithwyr cymdeithasol ymuno â thîm arloesol a blaengar.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cyfrannu at ddull aml-asiantaeth y tîm, gan ddarparu gwasanaeth iechyd, gofal cymdeithasol a lles di-dor ar gyfer pobl anabl o bob oed a'u teuluoedd a’u gofalwyr. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (2014), Deddf Plant 1989 a Deddf Galluedd Meddyliol 2005 yn darparu fframweithiau deddfwriaethol i sicrhau bod y tîm yn cydymffurfio â dyletswyddau statudol a bod unigolion yn cael eu cefnogi i gyflawni canlyniadau cadarnhaol ar bob cam o’u bywydau.
Byddwch yn gweithio gydag unigolion er mwyn eu galluogi i ganfod eu canlyniadau personol eu hunain. Bydd eich gwaith yn canolbwyntio ar yr unigolyn a'i rwydweithiau cefnogi, gan gynnwys teuluoedd, i hyrwyddo annibyniaeth, sicrhau bod gan yr unigolyn lais cryfach wrth wneud penderfyniadau a mwy o reolaeth yn eu bywydau.
Hoffai’r tîm atynnu Gweithwyr Cymdeithasol llawn cymhelliant gydag unrhyw lefel o brofiad i gynnal llwythi achosion yn bennaf ar gyfer oedolion. I fod yr unigolyn cywir ar gyfer y swydd hon, bydd gennych sgiliau cyfathrebu ardderchog, profiad o weithio mewn tîm, profiad o weithio gydag oedolion diamddiffyn a'r gallu i ymateb yn briodol i anghenion pobl gydag anabledd â diagnosis wrth gadw at ganllawiau, polisïau a safonau statudol. Mae’r Tîm Anableddau Pob Oed yn darparu cyfle i weithio mewn maes o arbenigedd penodol gyda’r posibilrwydd o ddatblygu sgiliau a phrofiad ymhellach i weithio ar draws holl agweddau’r tîm, gan gynnwys plant os y dymunwch wneud hynny.
Yn gyfnewid rydym ni’n cynnig:
• Goruchwyliaeth a chefnogaeth rheoli gadarn
• Mynediad at becyn adleoli o hyd at £5,000
• Cefnogaeth wych i gydweithwyr a morâl tîm cadarnhaol, gan gynnwys cefnogaeth mentor i weithwyr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso.
• Mynediad i gyfleoedd hyfforddi a datblygu parhaus
• Cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, gan gynnwys gweithio’n hyblyg a rhannu swydd
• Llwyth achos y gellir ymdopi â fo.
I gael sgwrs anffurfiol, cysylltwch â Carys West, Rheolwr Tîm, ar 01978 298551 neu anfonwch e-bost at carys.west@wrexham.gov.uk
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.
Nid ydym yn noddwr trwyddedig â’r Swyddfa Gartref ar hyn o bryd, felly yn anffodus, ni allwn noddi ymgeisydd a fydd angen fisa i ymgymryd â’r rôl hon.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Carys West |
Ffôn: | 01978 298511 |
Cyfeiriad e-bost: | Carys.West@wrexham.gov.uk |