Neidio i'r Prif Gynnwys

Prif Dudalen Lywio

Hafan Cofrestru Sut i wneud cais Cymraeg English

Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol - Un Pwynt Mynediad i Oedolion

Manylion Swydd Wag


Crynodeb
Grŵp Swydd Wag: Llawn Amser Parhaol
Categori: Gofal Cymdeithasol
Dyddiad Cau: 01/12/2024
Dyddiad Postio: 18/11/2024
Cyfeirnod: 08612

Disgrifiad

Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol

Parhaol 

Graddfa Gyflog 10 £40,476 - £43,693

Mae hwn yn gyfle cyffrous i Weithiwr Cymdeithasol ymuno â’r Un Pwynt Mynediad i Oedolion. 

Mae Un Pwynt Mynediad i Oedolion yn cael pob cyswllt ac atgyfeiriad newydd ar gyfer dinasyddion 18+ o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn darparu’r fframwaith deddfwriaethol mewn perthynas â darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth a nodi anghenion gofal a chymorth oedolion.  Mae Un Pwynt Mynediad i Oedolion yn hanfodol o ran sicrhau fod Oedolion yn cael eu cefnogi i gyflawni eu canlyniadau lles drwy sgyrsiau’n seiliedig ar ganlyniadau, darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth; a/neu nodi p’un a oes angen asesu anghenion gofal a chymorth ymhellach. 

Bydd ffocws ar ddatblygiad ar gyfer y tîm hwn, dros y misoedd nesaf, i sicrhau bod rhwydweithiau cryf yn cael eu creu gyda thimau statudol a chymunedol eraill o fewn y trydydd sector; gan fod gweithio aml-asiantaeth yn hanfodol ar gyfer asesiadau a gwblhawyd gan yr Un Pwynt Mynediad i Oedolion. 

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ochr yn ochr â thîm o Gynghorwyr Cyswllt Cyntaf, Aseswyr Gofal Cymdeithasol, Gweithwyr Cymdeithasol, a Therapydd Galwedigaethol. 

Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn Weithiwr Cymdeithasol Cymwysedig a Chofrestredig gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Byddant yn dangos tystiolaeth o wybodaeth dda a chymhwysiad o ddyletswyddau cyfreithiol i lywio asesu ac ymyrryd, bydd ganddynt sgiliau cyfathrebu rhagorol, y gallu i weithio fel rhan o dîm a phrofiad blaenorol o weithio gydag oedolion diamddiffyn. 

 Yn gyfnewid rydym yn cynnig: 

           Goruchwyliaeth reolaidd a chymorth gan reolwyr 

          Mynediad at becyn adleoli o hyd at £5,000

           Cefnogaeth ardderchog gan gymheiriaid a morâl tîm cadarnhaol 

            Mynediad i gyfleoedd hyfforddi a datblygu parhaus 

           Cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith gan gynnwys gweithio’n hyblyg 

           Llwyth achos y gellir ymdopi â fo.

Mae’r tîm wedi’u lleoli yn Adeiladau’r Goron.  Mae’r swydd yn cynnig y cyfle ar gyfer gweithio hybrid.   

Byddangen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon. 

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:

Debra Gonczarow - 01978 298196

Wesley Griffiths - 01978 298282

Nid ydym yn noddwr trwyddedig â’r Swyddfa Gartref ar hyn o bryd, fellyyn anffodus, ni allwn noddi ymgeisydd a fydd angen fisa i ymgymryd â’r rôl hon.

Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo’u hil, rhywedd, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg.  Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.

Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:

Cysylltiadau
Cyswllt 1
Enw'r cyswllt: Debra Gonczarow
Ffôn: 01978 298196
Cyfeiriad e-bost: debra.gonczarow@wrexham.gov.uk
Cyswllt 2
Enw'r cyswllt: Wesley Griffiths
Ffôn: 01978 298282
Cyfeiriad e-bost: Wesley.Griffiths@wrexham.gov.uk

Llywio Cyfrif

Heb Gofrestru?

  • Trwy gofrestru, byddwch yn gallu cadw gwybodaeth bersonol sy'n arbed amser pan fyddwch yn cofnodi'ch manylion, mae'n gadael ichi wneud cais am swyddi a rheoli'ch ceisiadau am swydd.
  • Cofrestrwch Nawr