Neidio i'r Prif Gynnwys

Prif Dudalen Lywio

Hafan Cofrestru Sut i wneud cais Cymraeg English

Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol - Tîm Ymateb Cynnar

Manylion Swydd Wag


Crynodeb
Grŵp Swydd Wag: Llawn Amser Parhaol
Categori: Gofal Cymdeithasol
Dyddiad Cau: 01/12/2024
Dyddiad Postio: 18/11/2024
Cyfeirnod: 08613

Disgrifiad

Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol

Parhaol

Graddfa Gyflog 10 £40,476 - £43,693

Dyma gyfle cyffrous i Weithiwr Cymdeithasol ymuno â’r Tîm Ymateb Cynnar.  

Mae’r Tîm Ymateb Cynnar yn gweithio gydag Oedolion sydd ymysg y rhai mwyaf diamddiffyn a gall eu hanghenion ymwneud â chamddefnyddio sylweddau, hunan-esgeuluso, celcio, caethwasiaeth fodern neu anghenion cymhleth eraill sy’n effeithio ar eu lles, yn aml gyda ffactorau risg sylweddol.  Mae’r dinasyddion sy’n derbyn cefnogaeth gan y Tîm Ymateb Cynnar yn aml yn rhai sydd heb gael unrhyw neu lawer o gysylltiad blaenorol gyda gofal cymdeithasol na goruchwyliaeth broffesiynol, ac mae eu hanghenion cefnogaeth a gofal yn gallu cael eu hystyried yn rhai byr dymor neu dymor canolig.  Mae’r Tîm Ymateb Cynnar yn gweithio i gefnogi lles y dinesydd drwy eu cysylltu gydag adnoddau statudol eraill ac/neu adnoddau yn y gymuned.  Mae hyn yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i wasanaethau camddefnyddio sylweddau a/neu iechyd meddwl, gwasanaethau tai, yr Heddlu, a chydweithwyr iechyd cymunedol. Mae gwaith amlasiantaeth yn allweddol er mwyn asesu, cynorthwyo i wella lles cyffredinol a rheolaeth risg y dinasyddion hyn.  

Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn Weithiwr Cymdeithasol Cymwysedig a Chofrestredig gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Byddant yn dangos tystiolaeth o wybodaeth dda a chymhwysiad o ddyletswyddau cyfreithiol i lywio asesu ac ymyrryd, bydd ganddynt sgiliau cyfathrebu rhagorol, y gallu i weithio fel rhan o dîm a phrofiad blaenorol o weithio gydag oedolion diamddiffyn. 

 Yn gyfnewid rydym yn cynnig:

•           Goruchwyliaeth reolaidd a chymorth gan reolwyr

•           Mynediad at becyn adleoli o hyd at £5,000

•           Cefnogaeth ardderchog gan gymheiriaid a morâl tîm cadarnhaol

•            Mynediad i gyfleoedd hyfforddi a datblygu parhaus

•           Cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith gan gynnwys gweithio’n hyblyg

•           Llwyth achos y gellir ymdopi â fo.

Mae’r tîm wedi’u lleoli yn Adeiladau’r Goron.  Mae’r swydd yn cynnig y cyfle ar gyfer gweithio hybrid.  

Bydd angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:
Anja Nielsen, Rheolwr Tîm Cynorthwyol Ymateb Cynnar,
Anja.Nielsen@wrexham.gov.uk / 01978 298184

Nid ydym yn noddwr trwyddedig â’r Swyddfa Gartref ar hyn o bryd, fellyyn anffodus, ni allwn noddi ymgeisydd a fydd angen fisa i ymgymryd â’r rôl hon.

Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo’u hil, rhywedd, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran. 

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg.  Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.

Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:

Cysylltiadau
Cyswllt 1
Enw'r cyswllt: Anja Nielsen
Ffôn: 01978 298184
Cyfeiriad e-bost: Anja.Nielsen@wrexham.gov.uk

Llywio Cyfrif

Heb Gofrestru?

  • Trwy gofrestru, byddwch yn gallu cadw gwybodaeth bersonol sy'n arbed amser pan fyddwch yn cofnodi'ch manylion, mae'n gadael ichi wneud cais am swyddi a rheoli'ch ceisiadau am swydd.
  • Cofrestrwch Nawr