Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol - Tîm Ymateb Cynnar
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Cau: | 01/12/2024 |
Dyddiad Postio: | 18/11/2024 |
Cyfeirnod: | 08613 |
Disgrifiad
Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol
Parhaol
Graddfa Gyflog 10 £40,476 - £43,693
Dyma gyfle cyffrous i Weithiwr Cymdeithasol ymuno â’r Tîm Ymateb Cynnar.
Mae’r Tîm Ymateb Cynnar yn gweithio gydag Oedolion sydd ymysg y rhai mwyaf diamddiffyn a gall eu hanghenion ymwneud â chamddefnyddio sylweddau, hunan-esgeuluso, celcio, caethwasiaeth fodern neu anghenion cymhleth eraill sy’n effeithio ar eu lles, yn aml gyda ffactorau risg sylweddol. Mae’r dinasyddion sy’n derbyn cefnogaeth gan y Tîm Ymateb Cynnar yn aml yn rhai sydd heb gael unrhyw neu lawer o gysylltiad blaenorol gyda gofal cymdeithasol na goruchwyliaeth broffesiynol, ac mae eu hanghenion cefnogaeth a gofal yn gallu cael eu hystyried yn rhai byr dymor neu dymor canolig. Mae’r Tîm Ymateb Cynnar yn gweithio i gefnogi lles y dinesydd drwy eu cysylltu gydag adnoddau statudol eraill ac/neu adnoddau yn y gymuned. Mae hyn yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i wasanaethau camddefnyddio sylweddau a/neu iechyd meddwl, gwasanaethau tai, yr Heddlu, a chydweithwyr iechyd cymunedol. Mae gwaith amlasiantaeth yn allweddol er mwyn asesu, cynorthwyo i wella lles cyffredinol a rheolaeth risg y dinasyddion hyn.
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn Weithiwr Cymdeithasol Cymwysedig a Chofrestredig gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Byddant yn dangos tystiolaeth o wybodaeth dda a chymhwysiad o ddyletswyddau cyfreithiol i lywio asesu ac ymyrryd, bydd ganddynt sgiliau cyfathrebu rhagorol, y gallu i weithio fel rhan o dîm a phrofiad blaenorol o weithio gydag oedolion diamddiffyn.
Yn gyfnewid rydym yn cynnig:
• Goruchwyliaeth reolaidd a chymorth gan reolwyr
• Mynediad at becyn adleoli o hyd at £5,000
• Cefnogaeth ardderchog gan gymheiriaid a morâl tîm cadarnhaol
• Mynediad i gyfleoedd hyfforddi a datblygu parhaus
• Cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith gan gynnwys gweithio’n hyblyg
• Llwyth achos y gellir ymdopi â fo.
Mae’r tîm wedi’u lleoli yn Adeiladau’r Goron. Mae’r swydd yn cynnig y cyfle ar gyfer gweithio hybrid.
Bydd angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:
Anja Nielsen, Rheolwr Tîm Cynorthwyol Ymateb Cynnar,
Anja.Nielsen@wrexham.gov.uk / 01978 298184
Nid ydym yn noddwr trwyddedig â’r Swyddfa Gartref ar hyn o bryd, fellyyn anffodus, ni allwn noddi ymgeisydd a fydd angen fisa i ymgymryd â’r rôl hon.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo’u hil, rhywedd, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Anja Nielsen |
Ffôn: | 01978 298184 |
Cyfeiriad e-bost: | Anja.Nielsen@wrexham.gov.uk |