Neidio i'r Prif Gynnwys

Prif Dudalen Lywio

Hafan Cofrestru Sut i wneud cais Cymraeg English

TDB Gweithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy/ Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol

Manylion Swydd Wag


Crynodeb
Grŵp Swydd Wag: Llawn Amser Parhaol
Categori: Gofal Cymdeithasol
Dyddiad Cau: 23/02/2025
Dyddiad Postio: 10/02/2025
Cyfeirnod: 08689

Disgrifiad

Tîm Dyletswydd Brys Gogledd Ddwyrain Cymru
Gweithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy 
G12 £48,710 - £51,802 y flwyddyn
Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol 
G10 £40,476 - £43,693 y flwyddynn
Croesewir ceisiadau rhan amser
Tîm Dyletswydd Brys Gogledd Ddwyrain Cymru yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pobl mewn argyfwng sydd angen ymyrraeth a chefnogaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol y tu allan i oriau swyddfa arferol. Mae Gweithwyr Iechyd Meddwl Cymeradwy gan gynnwys Gweithwyr Cymdeithasol Profiadol yn Nhîm Dyletswydd Brys Gogledd Ddwyrain Cymru, yn cynnal ac yn cydlynu’r ymyriadau brys gan sicrhau’r canlyniadau gorau ar gyfer plant ac oedolion nes bod ein cydweithwyr dydd yn cymryd yr awenau.
Rydym ni’n gweithio'n agos gydag asiantaethau eraill fel yr Heddlu, Damweiniau ac Achosion Brys, Gwasanaeth Ambiwlans Gogledd Cymru a meddygon teulu. Rydym ni hefyd yn derbyn atgyfeiriadau yn uniongyrchol gan ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr. Mae’r Gweithwyr Iechyd Meddwl Sesiynol Cymeradwy a’r Gweithwyr Cymdeithasol y tîm yn ymdrin â phob mater a defnyddiwr gwasanaeth, gan gynnwys plant ac oedolion mewn perygl, lleoliadau gofal maeth wedi chwalu, oedolion diamddiffyn yn y ddalfa, pobl sy'n profi argyfwng yn eu hiechyd meddwl a phobl hÅ·n sydd angen gwasanaethau i'w cadw'n iach ac yn ddiogel.
Rydym am recriwtio dau weithiwr llawn amser a arnom angen Gweithwyr Iechyd Meddwl Cymeradwy a/ neu Gweithwyr Cymdeithasol Profiadol i ymuno â thîm profiadol o staff y Tîm Dyletswydd Brys o gefndiroedd amrywiol. Mae cymhwyster Gweithiwr Iechyd Meddwl Cymeradwy yn ddymunol iawn, neu brofiad ym maes amddiffyn plant. Bydd yn rhaid i chi fod yn unigolyn brwdfrydig a llawn dychymyg ac yn greadigol yn eich dull o ddatrys problemau. Yn gyfenwid byddwch yn derbyn cefnogaeth gadarn gan gydweithwyr a rheolwyr y gwasanaeth.  
Mae Tim Dyletswydd Brys Gogledd Ddwyrain Cymru yn gweithio yn Sir y Fflint, Wrecsam a Sir Ddinbych, felly bydd cyfle i weithio gyda gwahanol garfannau o’r boblogaeth mewn ardaloedd gwledig a threfol. Mae'r patrwm sifft yn cynnig hyblygrwydd - byddwch yn un o bedwar aelod staff ar ddyletswydd yn ystod ein hamseroedd prysuraf ac yn un o ddau ar adegau llai prysur.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â
Mike Bell (Pennaeth Gwasanaeth ) ar 01978 298437 neu e-bostiwch: mike.bell@wrexham.gov.uk neu
Vicky Valentine (Rheolwr Tîm Rhanbarthol) ar 01978 298437 neu e-bostiwch: vicky.valentine@wrexham.gov.uk 
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.
Rydym yn gweithredu cynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr â'r cymwysterau priodol sydd ag anableddau ac rydym wedi ymrwymo i Gyfleoedd Cyfartal. 
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:

Cysylltiadau
Cyswllt 1
Enw'r cyswllt: Mike Bell
Ffôn: 01978 298437
Cyfeiriad e-bost: mike.bell@wrexham.gov.uk
Cyswllt 2
Enw'r cyswllt: Vicky Valentine
Ffôn: 01978 298437
Cyfeiriad e-bost: vicky.valentine@wrexham.gov.uk

Llywio Cyfrif

Heb Gofrestru?

  • Trwy gofrestru, byddwch yn gallu cadw gwybodaeth bersonol sy'n arbed amser pan fyddwch yn cofnodi'ch manylion, mae'n gadael ichi wneud cais am swyddi a rheoli'ch ceisiadau am swydd.
  • Cofrestrwch Nawr