Gweithiwr Cymdeithasol - Tîm Cymorth i Deuluoedd
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Cau: | 02/03/2025 |
Dyddiad Postio: | 10/02/2025 |
Cyfeirnod: | 08725 |
Disgrifiad
Gweithiwr Cymdeithasol – Gwasanaethau Plant Wrecsam (Tîm Cymorth i Deuluoedd)
Rhaid meddu ar gymhwyster Gwaith Cymdeithasol.
G09 £37,035 - £39,513 y flwyddyn
Rydym yn awyddus i recriwtio Gweithiwr Cymdeithasol profiadol, ymroddedig, creadigol a gwydn i gefnogi ein taith wella barhaus tuag at arfer gorau. Dangosir hyn yn ein Harolygiad cadarnhaol diweddar.
Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gyfle cyffrous yn y Gwasanaethau Plant.
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd wedi ymrwymo i sicrhau newid i blant a phobl ifanc.
Pam ymuno â Wrecsam fel Gweithiwr Cymdeithasol Plant?
Bydd ein gweithwyr cymdeithasol yn dweud wrthych: - "Maent yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi gan reolwyr, yn rhan o dîm, ac yn rhywle lle maent yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi". Mae Gweithwyr Cymdeithasol yn cael eu hannog a'u cefnogi i fod yn greadigol ac yn ymdrechu am ragoriaeth ym mhob maes.
Mae Gwasanaeth Plant Wrecsam yn rhywle lle gall pawb FFYNNU – drwy ein gwerthoedd craidd, sef gwaith tîm, gonestrwydd, parch, arloesedd, gwerth am arian a grymuso. Byddwn yn rhoi’r canlynol i chi:-
· Mae llais y plentyn yn ganolog i'n holl waith
· Bydd dulliau sy'n seiliedig ar drawma wrth wraidd eich ymarfer
· llwythi achos gwarchodedig
· Amgylchedd gwaith cefnogol a chydweithredol
· Swyddfa fodern a llachar
· Cymorth a goruchwyliaeth rheoli rhagorol
· Datblygiad a dilyniant gyrfa personol
· Sesiynau datblygu ymarfer a chyfleoedd i fyfyrio
· Gwaith uniongyrchol sy’n seiliedig ar y dystiolaeth ddiweddaraf gyda phlant a phobl ifanc
Mae'r Tîm Cymorth i Deuluoedd yn darparu gwasanaethau amddiffyn plant statudol a gwasanaethau cymorth i deuluoedd i'r plant a'r teuluoedd hynny yr aseswyd bod angen gwasanaethau arnynt i ddiwallu anghenion plant agored i niwed, er mwyn hyrwyddo eu lles emosiynol, corfforol a chymdeithasol. Mae'r tîm hefyd yn darparu gwasanaethau i blant sy'n derbyn gofal, yn dilyn gweithdrefnau i gychwyn achos gofal yn y llysoedd teulu, a'r rhai sy'n mynd trwy achosion cyfraith preifat.
Pam gweithio gyda ni?
Yng Nghyngor Wrecsam, rydym yn gwerthfawrogi ein gweithwyr ac yn cynnig pecyn buddion cynhwysfawr sydd wedi'i gynllunio i gefnogi eich lles a'ch datblygiad proffesiynol. Pan fyddwch yn ymuno â'n gweithlu, gallwch edrych ymlaen at:
· Hyd at 32 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn.
· Yn dibynnu ar y maes gwasanaeth, efallai y bydd gennych hawl i opsiynau gweithio hyblyg a hybrid a gallech hefyd gael 'diwrnodau hyblyg', gan adeiladu amser i’w gymryd fel gwyliau trwy weithio pan fydd mwy o alw ar y gwasanaeth.
· Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.
· Cynllun Gwobrwyo a Buddion.
· Cyfleoedd hyfforddiant a datblygu.
· Rhaglen Cymorth i Weithwyr a mentrau lles.
· Cynllun Beicio i’r Gwaith.
· Aelodaeth hamdden ratach.
· Mynediad at becyn adleoli o hyd at £5,000.
· Rhaglen sefydlu fanwl.
I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, edrychwch ar y disgrifiad swydd atodedig sy'n cynnwys y meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd.
Ymunwch â ni yng Nghyngor Wrecsam a byddwch yn rhan o dîm ymroddedig sy'n gwneud gwahaniaeth yn ein cymuned.
Mae'r swydd Gweithiwr Cymdeithasol hwn yn y Tîm Cymorth i Deuluoedd/Tîm Plant sy'n Derbyn Gofal a'r Tîm Asesu ac Ymyrryd yn denu taliad cymhelliant recriwtio o £2,996 fel croeso i'r Cyngor.
Mewn rhai amgylchiadau, gall taliad cymhelliant cadw ychwanegol o £2,996 hefyd fod yn berthnasol ar ben-blwydd eich apwyntiad os ydych yn parhau mewn swydd / tîm cymwys.
Bydd y taliad hwn yn pro-rata ar gyfer gweithwyr rhan-amser ac mae'n destun didyniadau gweithwyr arferol e.e. pensiwn, Yswiriant Gwladol a Threth ac mae telerau ac amodau eraill yn berthnasol. Gweler y nodyn Canllaw Taliad Recriwtio a Chadw am ragor o fanylion.
Edrychwch ar ein buddion i weithwyr a fydd ar gael i chi wrth weithio yn y Cyngor os byddwch yn llwyddiannus yn eich cais (Gweithio i ni | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam).
Mae angen gwiriad GDG Manwl a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.
Nid ydym yn noddwr trwyddedig â’r Swyddfa Gartref ar hyn o bryd, felly yn anffodus, ni allwn noddi ymgeisydd a fydd angen fisa i ymgymryd â’r rôl hon.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â chymwysterau addas, waeth beth fo'u hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.
Mae’r Cyngor yn ymroddedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n dangos eu gallu i weithio yn y Gymraeg a’r Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Mike Jones |
Ffôn: | 01978 298605 |
Cyfeiriad e-bost: | Mike.Jones@wrexham.gov.uk |