Neidio i'r Prif Gynnwys

Prif Dudalen Lywio

Hafan Cofrestru Sut i wneud cais Cymraeg English

Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol - Nhîm Gadael Gofal

Manylion Swydd Wag


Crynodeb
Grŵp Swydd Wag: Llawn Amser Parhaol
Categori: Gofal Cymdeithasol
Dyddiad Cau: 02/03/2025
Dyddiad Postio: 10/02/2025
Cyfeirnod: 08731

Disgrifiad

Gweithiwr Cymdeithasol profiadol – Gwasanaethau Plant Wrecsam (Tîm Gadael Gofal) 

Rhaid meddu ar gymhwyster Gwaith Cymdeithasol.

G10 - £40,476 - £43,693  y flwyddyn

Rydym yn awyddus i recriwtio Gweithiwr Cymdeithasol profiadol, ymroddedig, creadigol a gwydn i gefnogi ein taith wella barhaus tuag at arfer gorau. Dangosir hyn yn ein Harolygiad cadarnhaol diweddar.

Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gyfle cyffrous yn y Gwasanaethau Plant. 

Rydym yn chwilio am unigolyn sydd wedi ymrwymo i sicrhau newid i blant a phobl ifanc.

Pam ymuno â Wrecsam fel Gweithiwr Cymdeithasol Plant?

Bydd ein gweithwyr cymdeithasol yn dweud wrthych:  - "Maent yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi gan reolwyr, yn rhan o dîm, ac yn rhywle lle maent yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi". Mae Gweithwyr Cymdeithasol yn cael eu hannog a'u cefnogi i fod yn greadigol ac yn ymdrechu am ragoriaeth ym mhob maes.

Mae Gwasanaeth Plant Wrecsam yn rhywle lle gall pawb FFYNNU – drwy ein gwerthoedd craidd, sef gwaith tîm, gonestrwydd, parch, arloesedd, gwerth am arian a grymuso. Byddwn yn rhoi’r canlynol i chi:-

·       Mae llais y plentyn yn ganolog i'n holl waith

·       Bydd dulliau sy'n seiliedig ar drawma wrth wraidd eich ymarfer

·       llwythi achos gwarchodedig

·       Amgylchedd gwaith cefnogol a chydweithredol

·       Swyddfa fodern a llachar

·       Cymorth a goruchwyliaeth rheoli rhagorol

·       Datblygiad a dilyniant gyrfa personol

·       Sesiynau datblygu ymarfer a chyfleoedd i fyfyrio

    Gwaith uniongyrchol sy’n seiliedig ar y dystiolaeth ddiweddaraf gyda phlant a phobl ifanc 

Mae'r Tîm Gadael Gofal yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc 15-25 oed sydd â phrofiad o ofal. Ffocws ar bontio effeithiol i bobl ifanc 15-18 oed drwy gynllunio’u llwybrau i gefnogi a datblygu hyder, a sgiliau bywyd i ddelio â chyfleoedd a heriau oedolaeth. Sicrhau bod anghenion llety yn cael eu hystyried yn ofalus fel bod pobl ifanc yn teimlo'n ddiogel a bod eu dymuniadau o ran lleoliad yn cael eu parchu fel y gallant gynnal perthynas â phobl sy'n bwysig iddynt.

Pam gweithio gyda ni?

Yng Nghyngor Wrecsam, rydym yn gwerthfawrogi ein gweithwyr ac yn cynnig pecyn buddion cynhwysfawr sydd wedi'i gynllunio i gefnogi eich lles a'ch datblygiad proffesiynol. Pan fyddwch yn ymuno â'n gweithlu, gallwch edrych ymlaen at:

·      Hyd at 32 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn.

·      Yn dibynnu ar y maes gwasanaeth, efallai y bydd gennych hawl i opsiynau gweithio hyblyg a hybrid a gallech hefyd gael 'diwrnodau hyblyg', gan adeiladu amser i’w gymryd fel gwyliau trwy weithio pan fydd mwy o alw ar y gwasanaeth.

·       Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

·       Cynllun Gwobrwyo a Buddion.

·       Cyfleoedd hyfforddiant a datblygu.

·       Rhaglen Cymorth i Weithwyr a mentrau lles.

·       Cynllun Beicio i’r Gwaith.

·       Aelodaeth hamdden ratach.

·       Mynediad at becyn adleoli o hyd at £5,000.         

·       Rhaglen sefydlu fanwl.

I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, edrychwch ar y disgrifiad swydd atodedig sy'n cynnwys y meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd.

Ymunwch â ni yng Nghyngor Wrecsam a byddwch yn rhan o dîm ymroddedig sy'n gwneud gwahaniaeth yn ein cymuned.

Edrychwch ar ein buddion i weithwyr a fydd ar gael i chi wrth weithio yn y Cyngor os byddwch yn llwyddiannus yn eich cais (Gweithio i ni | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam). 

Mae angen gwiriad GDG Manwl a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.

Nid ydym yn noddwr trwyddedig â’r Swyddfa Gartref ar hyn o bryd, fellyyn anffodus, ni allwn noddi ymgeisydd a fydd angen fisa i ymgymryd â’r rôl hon.

Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â chymwysterau addas, waeth beth fo'u hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.

Mae’r Cyngor yn ymroddedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n dangos eu gallu i weithio yn y Gymraeg a’r Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg. 

 

Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:

Cysylltiadau
Cyswllt 1
Enw'r cyswllt: Kim Stewart
Ffôn: 01978 295610
Cyfeiriad e-bost: kim.stewart@wrexham.gov.uk

Llywio Cyfrif

Heb Gofrestru?

  • Trwy gofrestru, byddwch yn gallu cadw gwybodaeth bersonol sy'n arbed amser pan fyddwch yn cofnodi'ch manylion, mae'n gadael ichi wneud cais am swyddi a rheoli'ch ceisiadau am swydd.
  • Cofrestrwch Nawr