Gweithiwr Cymdeithasol - Tîm ar gyfer Pobl Hŷn
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Cau: | 02/03/2025 |
Dyddiad Postio: | 10/02/2025 |
Cyfeirnod: | 08733 |
Disgrifiad
Gweithwyr Cymdeithasol – Gwasanaethau Oedolion Wrecsam (Tîm Pobl HÅ·n)
Rhaid meddu ar gymhwyster Gwaith Cymdeithasol.
G09 - £37,035 - £39,513 y flwyddyn
Rydym yn awyddus i recriwtio Gweithiwr Cymdeithasol profiadol, ymroddedig, creadigol a gwydn i gefnogi ein taith wella barhaus tuag at arfer gorau. Dangosir hyn yn ein Harolygiad cadarnhaol diweddar.
Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gyfle cyffrous yn y Gwasanaethau Oedolion.
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd wedi ymrwymo i gefnogi oedolion i gyflawni eu canlyniadau personol.
Pam ymuno â Wrecsam fel Gweithiwr Cymdeithasol Oedolion?
Bydd ein gweithwyr cymdeithasol yn dweud wrthych: - "Maent yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi gan reolwyr, yn rhan o dîm, ac yn rhywle lle maent yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi". Mae Gweithwyr Cymdeithasol yn cael eu hannog a'u cefnogi i fod yn greadigol ac yn ymdrechu am ragoriaeth ym mhob maes.
Mae Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion Wrecsam yn rhywle lle gallpawb FFYNNU – drwy ein gwerthoedd craidd, sef Gwaith Tîm, Gonestrwydd, Parch, Arloesedd, Gwerth am Arian a Grymuso. Byddwn yn rhoi’r canlynol i chi:-
· llwythi achos gwarchodedig
· amgylchedd gwaith cefnogol a chydweithredol
· swyddfa fodern a llachar
· cymorth a goruchwyliaeth ragorol gan reolwyr
· datblygiad a dilyniant gyrfa personol
· sesiynau datblygu ymarfer a chyfleoedd i fyfyrio
· bydd dulliau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn wrth wraidd eich ymarfer.
Mae gan y Tîm Pobl HÅ·n gylch gwaith eang ac amrywiol sy'n darparu ystod eang o gyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol. Mae'r tîm yn derbyn atgyfeiriadau ar gyfer unigolion sy'n byw yn y gymuned, preswylwyr cartrefi gofal a phobl sydd yn yr ysbyty ar hyn o bryd. Mae'r meysydd gwaith cymdeithasol y byddwch yn dod ar eu traws yn ein tîm yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i weithio amlddisgyblaethol gyda theuluoedd, gofalwyr di-dâl, gweithwyr proffesiynol iechyd a’r trydydd sector; technoleg gynorthwyol; cefnogi gofalwyr di-dâl; ailalluogi; taliadau uniongyrchol; gweithio gyda phobl sy'n byw gyda diagnosis o ddementia; rhyddhau o’r ysbyty ac osgoi’r ysbyty; diogelu; hunanesgeulusod; galluedd meddyliol a gwneud penderfyniadau er lles pennaf; asesiadau Gofal Iechyd Parhaus; ymyrryd o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl; a'r Llys Gwarchod. Fel rhan o'r tîm, byddwch yn mwynhau amgylchedd gwaith cefnogol, gan gynnwys goruchwyliwr a mentor, sesiynau grŵp cymorth cyfoedion rheolaidd, cefnogaeth goruchwylio a rheoli gadarn, mynychu cyfarfodydd tîm ac ardal leol yn rheolaidd, a chymorth rhagorol gan gyfoedion bob dydd.
Pam gweithio gyda ni?
Yng Nghyngor Wrecsam, rydym yn gwerthfawrogi ein gweithwyr ac yn cynnig pecyn buddion cynhwysfawr sydd wedi'i gynllunio i gefnogi eich lles a'ch datblygiad proffesiynol. Pan fyddwch yn ymuno â'n gweithlu, gallwch edrych ymlaen at:
· Hyd at 32 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn.
· Yn dibynnu ar y maes gwasanaeth, efallai y bydd gennych hawl i opsiynau gweithio hyblyg a hybrid a gallech hefyd gael ‘diwrnodau hyblyg’, gan adeiladu amser i’w gymryd fel gwyliau trwy weithio pan fydd mwy o alw ar y gwasanaeth.
· Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.
· Cynllun Gwobrwyo a Buddion.
· Cyfleoedd Hyfforddi a Datblygu
· Rhaglen Cymorth i Weithwyr a mentrau lles.
· Cynllun Beicio i’r Gwaith.
· Aelodaeth hamdden ratach.
· Mynediad at becyn adleoli o hyd at £5,000.
· Rhaglen sefydlu fanwl.
I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, edrychwch ar y disgrifiad swydd atodedig sy'n cynnwys y meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd.
Ymunwch â ni yng Nghyngor Wrecsam a byddwch yn rhan o dîm ymroddedig sy'n gwneud gwahaniaeth yn ein cymuned.
Edrychwch ar ein buddion i weithwyr a fydd ar gael i chi wrth weithio yn y Cyngor os byddwch yn llwyddiannus yn eich cais (Gweithio i ni | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam).
Mae angen gwiriad GDG Manwl a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.
Nid ydym yn noddwr trwyddedig â’r Swyddfa Gartref ar hyn o bryd, felly yn anffodus, ni allwn noddi ymgeisydd a fydd angen fisa i ymgymryd â’r rôl hon.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â chymwysterau addas, waeth beth fo'u hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.
Mae’r Cyngor yn ymroddedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n dangos eu gallu i weithio yn y Gymraeg a’r Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Amanda Squire |
Ffôn: | 07802378674 |
Cyfeiriad e-bost: | Amanda.Squire@wrexham.gov.uk |