Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol - Tîm Anabledd
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Cau: | 02/03/2025 |
Dyddiad Postio: | 10/02/2025 |
Cyfeirnod: | 08734 |
Disgrifiad
Gweithiwr Cymdeithasol profiadol – Gwasanaethau Plant Wrecsam (Tîm Anabledd Pob Oed)
Rhaid meddu ar gymhwyster Gwaith Cymdeithasol.
G10 - £40,476 - £43,693 y flwyddyn
Rydym yn awyddus i recriwtio Gweithiwr Cymdeithasol profiadol, ymroddedig, creadigol a gwydn i gefnogi ein taith wella barhaus tuag at arfer gorau. Dangosir hyn yn ein Harolygiad cadarnhaol diweddar.
Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gyfle cyffrous yn y Gwasanaethau Plant.
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd wedi ymrwymo i sicrhau newid i blant a phobl ifanc.
Pam ymuno â Wrecsam fel Gweithiwr Cymdeithasol Plant?
Bydd ein gweithwyr cymdeithasol yn dweud wrthych: - "Maent yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi gan reolwyr, yn rhan o dîm, ac yn rhywle lle maent yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi". Mae Gweithwyr Cymdeithasol yn cael eu hannog a'u cefnogi i fod yn greadigol ac yn ymdrechu am ragoriaeth ym mhob maes.
Mae Gwasanaeth Plant Wrecsam yn rhywle lle gall pawb FFYNNU – drwy ein gwerthoedd craidd, sef gwaith tîm, gonestrwydd, parch, arloesedd, gwerth am arian a grymuso. Byddwn yn rhoi’r canlynol i chi:-
· Mae llais y plentyn yn ganolog i'n holl waith
· Bydd dulliau sy'n seiliedig ar drawma wrth wraidd eich ymarfer
· llwythi achos gwarchodedig
· Amgylchedd gwaith cefnogol a chydweithredol
· Swyddfa fodern a llachar
· Cymorth a goruchwyliaeth rheoli rhagorol
· Datblygiad a dilyniant gyrfa personol
· Sesiynau datblygu ymarfer a chyfleoedd i fyfyrio
- Gwaith uniongyrchol sy’n seiliedig ar y dystiolaeth ddiweddaraf gyda phlant a phobl ifanc
Mae'r Tîm Anabledd Pob Oed yn darparu ymyrraeth a chymorth i Blantac Oedolion o unrhyw oedran a allai fod ag AnableddDysgu wedi’i ddiagnosio, Anabledd Corfforol Difrifol ac Anableddau Lluosog ag anghenion cymhleth. O fewn y tîm byddwch yn asesu plant ac oedolion ar gyfer anghenion gofal a chymorth cymwys. Yna byddwch yn gweithio mewn partneriaeth â dinasyddion i gyflawni eu canlyniadau personol trwy wybodaeth, cyngor a chymorth neu drwy drefniadau comisiynu ffurfiol. Fel rhan o waith gyda phlant, byddwch hefyd yn ymgymryd ag achosion amddiffyn plant pan fo angen. Fel rhan o waith gydag oedolion, byddwch hefyd yn arwain ar bryderon diogelu ac yn cefnogi dinasyddion i gyflawni eu canlyniadau gorau posibl. Byddwch yn gweithio mewn tîm amlasiantaethol ac yn cael cyfle i ddatblygu o fewn arbenigeddau penodol.
Pam gweithio gyda ni?
Yng Nghyngor Wrecsam, rydym yn gwerthfawrogi ein gweithwyr ac yn cynnig pecyn buddion cynhwysfawr sydd wedi'i gynllunio i gefnogi eich lles a'ch datblygiad proffesiynol. Pan fyddwch yn ymuno â'n gweithlu, gallwch edrych ymlaen at:
· Hyd at 32 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn.
· Yn dibynnu ar y maes gwasanaeth, efallai y bydd gennych hawl i opsiynau gweithio hyblyg a hybrid a gallech hefyd gael 'diwrnodau hyblyg', gan adeiladu amser i’w gymryd fel gwyliau trwy weithio pan fydd mwy o alw ar y gwasanaeth.
· Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.
· Cynllun Gwobrwyo a Buddion.
· Cyfleoedd hyfforddiant a datblygu.
· Rhaglen Cymorth i Weithwyr a mentrau lles.
· Cynllun Beicio i’r Gwaith.
· Aelodaeth hamdden ratach.
· Mynediad at becyn adleoli o hyd at £5,000.
· Rhaglen sefydlu fanwl.
I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, edrychwch ar y disgrifiad swydd atodedig sy'n cynnwys y meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd.
Ymunwch â ni yng Nghyngor Wrecsam a byddwch yn rhan o dîm ymroddedig sy'n gwneud gwahaniaeth yn ein cymuned.
Edrychwch ar ein buddion i weithwyr a fydd ar gael i chi wrth weithio yn y Cyngor os byddwch yn llwyddiannus yn eich cais (Gweithio i ni | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam).
Mae angen gwiriad GDG Manwl a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.
Nid ydym yn noddwr trwyddedig â’r Swyddfa Gartref ar hyn o bryd, fellyyn anffodus, ni allwn noddi ymgeisydd a fydd angen fisa i ymgymryd â’r rôl hon.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â chymwysterau addas, waeth beth fo'u hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.
Mae’r Cyngor yn ymroddedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n dangos eu gallu i weithio yn y Gymraeg a’r Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Carys West |
Ffôn: | 01978 298511 |
Cyfeiriad e-bost: | Carys.West@wrexham.gov.uk |