Neidio i'r Prif Gynnwys

Prif Dudalen Lywio

Hafan Cofrestru Sut i wneud cais Cymraeg English

Gweithiwr Cymdeithasol - Tîm Anabledd

Manylion Swydd Wag


Crynodeb
Grŵp Swydd Wag: Llawn Amser Parhaol
Categori: Gofal Cymdeithasol
Dyddiad Cau: 02/03/2025
Dyddiad Postio: 10/02/2025
Cyfeirnod: 08735

Disgrifiad

Gweithwyr Cymdeithasol  – Gwasanaethau Oedolion Wrecsam (Tîm Anabledd Pob Oed)

Rhaid meddu ar gymhwyster Gwaith Cymdeithasol.

G09 - £37,035 - £39,513 y flwyddyn

Rydym yn awyddus i recriwtio Gweithiwr Cymdeithasol profiadol, ymroddedig, creadigol a gwydn i gefnogi ein taith wella barhaus tuag at arfer gorau. Dangosir hyn yn ein Harolygiad cadarnhaol diweddar.

Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gyfle cyffrous yn y Gwasanaethau Oedolion. 

Rydym yn chwilio am unigolyn sydd wedi ymrwymo i gefnogi oedolion i gyflawni eu canlyniadau personol.

Pam ymuno â Wrecsam fel Gweithiwr Cymdeithasol Oedolion?

Bydd ein gweithwyr cymdeithasol yn dweud wrthych:  - "Maent yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi gan reolwyr, yn rhan o dîm, ac yn rhywle lle maent yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi". Mae Gweithwyr Cymdeithasol yn cael eu hannog a'u cefnogi i fod yn greadigol ac yn ymdrechu am ragoriaeth ym mhob maes.

Mae Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol Oedolion Wrecsam yn rhywle lle gall pawb FFYNNU – drwy ein gwerthoedd craidd, sef Gwaith Tîm, Gonestrwydd, Parch, Arloesedd, Gwerth am Arian a Grymuso. Byddwn yn rhoi’r canlynol i chi:-

·       llwythi achos gwarchodedig

·       amgylchedd gwaith cefnogol a chydweithredol

·       swyddfa fodern a llachar

·       cymorth a goruchwyliaeth ragorol gan reolwyr

·       datblygiad a dilyniant gyrfa personol

·       sesiynau datblygu ymarfer a chyfleoedd i fyfyrio

·       bydd dulliau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn wrth wraidd eich ymarfer.

Mae'r Tîm Anabledd Pob Oed yn darparu ymyrraeth a chymorth i Blant ac Oedolion o unrhyw oedran a allai fod ag Anabledd Dysgu wedi’i ddiagnosio, Anabledd Corfforol Difrifol ac Anableddau Lluosog ag anghenion cymhleth. O fewn y tîm byddwch yn asesu plant ac oedolion ar gyfer anghenion gofal a chymorth cymwys. Yna byddwch yn gweithio mewn partneriaeth â dinasyddion i gyflawni eu canlyniadau personol trwy wybodaeth, cyngor a chymorth neu drwy drefniadau comisiynu ffurfiol. Fel rhan o waith gyda phlant, byddwch hefyd yn ymgymryd ag achosion amddiffyn plant pan fo angen. Fel rhan o waith gydag oedolion, byddwch hefyd yn arwain ar bryderon diogelu ac yn cefnogi dinasyddion i gyflawni eu canlyniadau gorau posibl. Byddwch yn gweithio mewn tîm amlasiantaethol ac yn cael cyfle i ddatblygu o fewn arbenigeddau penodol.

Pam gweithio gyda ni?

Yng Nghyngor Wrecsam,rydym yn gwerthfawrogi ein gweithwyr ac yn cynnig pecyn buddion cynhwysfawr sydd wedi'i gynllunio i gefnogi eich lles a'ch datblygiad proffesiynol. Pan fyddwch yn ymuno â'n gweithlu, gallwch edrych ymlaen at:

·       Hyd at 32 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn.

·       Yn dibynnu ar y maes gwasanaeth, efallai y bydd gennych hawl i opsiynau gweithio hyblyg a hybrid a gallech hefyd gael ‘diwrnodau hyblyg’, gan adeiladu amser i’w gymryd fel gwyliau trwy weithio pan fydd mwy o alw ar y gwasanaeth.

·       Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

·       Cynllun Gwobrwyo a Buddion.

·       Cyfleoedd Hyfforddi a Datblygu

·       Rhaglen Cymorth i Weithwyr a mentrau lles.

·       Cynllun Beicio i’r Gwaith.

·       Aelodaeth hamdden ratach.

·       Mynediad at becyn adleoli o hyd at £5,000.         

·       Rhaglen sefydlu fanwl.

 I gael rhagor o wybodaeth am yrôl, edrychwch ar y disgrifiad swydd atodedig sy'n cynnwys y meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd.

Ymunwch â ni yng Nghyngor Wrecsam a byddwch yn rhan o dîm ymroddedig sy'n gwneud gwahaniaeth yn ein cymuned.

Edrychwch ar ein buddion i weithwyr a fydd ar gael i chi wrth weithio yn y Cyngor os byddwch yn llwyddiannus yn eich cais (Gweithio i ni | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam). 

Mae angen gwiriad GDG Manwl a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.

Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â chymwysterau addas, waeth beth fo'u hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.

Mae’r Cyngor yn ymroddedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n dangos eu gallu i weithio yn y Gymraeg a’r Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg. 

 

Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:

Cysylltiadau
Cyswllt 1
Enw'r cyswllt: Carys West
Ffôn: 01978 298511
Cyfeiriad e-bost: Carys.West@wrexham.gov.uk

Llywio Cyfrif

Heb Gofrestru?

  • Trwy gofrestru, byddwch yn gallu cadw gwybodaeth bersonol sy'n arbed amser pan fyddwch yn cofnodi'ch manylion, mae'n gadael ichi wneud cais am swyddi a rheoli'ch ceisiadau am swydd.
  • Cofrestrwch Nawr