Neidio i'r Prif Gynnwys

Prif Dudalen Lywio

Hafan Cofrestru Sut i wneud cais Cymraeg English

Rheolwr Tîm Cynorthwyol - Tîm Gadael Gofal

Manylion Swydd Wag


Crynodeb
Grŵp Swydd Wag:
Categori: Gofal Cymdeithasol
Dyddiad Cau: 02/03/2025
Dyddiad Postio: 10/02/2025
Cyfeirnod: 08737

Disgrifiad

Rheolwr Tîm Cynorthwyol – Gwasanaethau Plant Wrecsam (Tîm Gadael Gofal)

Rhaid meddu ar gymhwyster Gwaith Cymdeithasol.

G11 £44,711 - £47,754 y flwyddyn

Rydym yn llawn cyffro i fod yn penodi Rheolwr Tîm Cynorthwyol ymrwymedig, creadigol a gwydn (sy’n gymwys i wneud Gwaith Cymdeithasol) i gefnogi ein taith wella barhaus tuag at arfer gorau. Dangosir hyn yn ein Harolygiad cadarnhaol diweddar.

Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gyfle cyffrous yn y Gwasanaethau Plant. 

Rydym yn chwilio am unigolyn sydd wedi ymrwymo i sicrhau newid i blant a phobl ifanc.

Pam ymuno â Wrecsam fel Rheolwr Tîm Cynorthwyol Plant?

Bydd ein gweithwyr cymdeithasol yn dweud wrthych:  - "Maent yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi gan reolwyr, yn rhan o dîm, ac yn rhywle lle maent yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi". Mae Gweithwyr Cymdeithasol yn cael eu hannog a'u cefnogi i fod yn greadigol ac yn ymdrechu am ragoriaeth ym mhob maes.

Mae Gwasanaeth Plant Wrecsam yn rhywle lle gall pawb FFYNNU – drwy ein gwerthoedd craidd, sef gwaith tîm, gonestrwydd, parch, arloesedd, gwerth am arian a grymuso. Byddwn yn rhoi’r canlynol i chi:-

·       Mae llais y plentyn yn ganolog i'n holl waith

·       Bydd dulliau sy'n seiliedig ar drawma wrth wraidd eich ymarfer

·       Amgylchedd gwaith cefnogol a chydweithredol

·       Swyddfa fodern a llachar

·       Cymorth a goruchwyliaeth ragorol gan reolwyr

·       Datblygiad a dilyniant gyrfa personol

·       Sesiynau datblygu ymarfer a chyfleoedd i fyfyrio

·       Gwaith uniongyrchol sy’n seiliedig ar y dystiolaeth ddiweddaraf gyda phlant a phobl ifanc

 

YnglÅ·n â’r rôl

Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi plant a theuluoedd.

Byddwch yn rheoli gweithwyr cymwys ac anghymwys, gan ganolbwyntio ar gynnal y safonau proffesiynol uchaf trwy oruchwylio staff yn rheolaidd – yn ffurfiol ac yn anffurfiol. Byddwch yn gweithredu fel mentor i gydweithwyr ac yn arwain wrth sefydlu staff newydd. Bydd disgwyl i chi arwain a datblygu meysydd gwaith o fewn y tîm.

Bydd gennych yr wybodaeth ddiweddaraf am ddeddfwriaeth, cyfraith ac arfer gorau perthnasol ac rydym yn parhau i sicrhau datblygiad proffesiynol parhaus trwy gyfleoedd hyfforddi rhagorol.

Rydych yn weithiwr cymdeithasol plant rheng flaen profiadol sydd wedi ymrwymo i weithio ochr yn ochr â'r rheolwr tîm i roi cymorth i'r Gweithwyr Cymdeithasol a'r Aseswyr Gofal Cymdeithasol Plant mewn amgylchedd prysur a chefnogol.   

Rydych yn rhydd-feddwl ac yn hyderus wrth wneud penderfyniadau a fydd yn cael ei ddangos yn eich goruchwyliaeth rheoli ardderchog o atgyfeiriadau a geir gan y tîm.

Byddwch yn gefnogol ac yn angerddol i gynorthwyo'r rheolwr i ddatblygu tîm sy'n perfformio'n dda, ac i gefnogi datblygiad staff i gyflawni'r canlyniadau gorau i blant a phobl ifanc.

Bydd gennych sgiliau cyfathrebu uwch, byddwch yn brofiadol mewn cadeirio cyfarfodydd a bydd gennych brofiad blaenorol o reoli achosion cymhleth.

Mae'r Tîm Gadael Gofal yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc 15-25 oed sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Rydym yn canolbwyntio ar bontio effeithiol i bobl ifanc 15-18 oed drwy gynllunio’u llwybrau i gefnogi a datblygu hyder, a sgiliau bywyd i ddelio â chyfleoedd a heriau oedolaeth. Sicrhau bod anghenion llety yn cael eu hystyried yn ofalus fel bod pobl ifanc yn teimlo'n ddiogel a bod eu dymuniadau o ran lleoliad yn cael eu parchu fel y gallant gynnal perthynas â phobl sy'n bwysig iddynt.

Gan weithio ochr yn ochr â Rheolwr Tîm Cynorthwyol arall, byddwch yn gyfrifol am oruchwylio Gweithwyr Cymdeithasol a chynghorwyr personol i gefnogi plant a phobl ifanc sy'n gadael gofal.

 

Pam gweithio gyda ni?

Yng Nghyngor Wrecsam, rydym yn gwerthfawrogi ein gweithwyr ac yn cynnig pecyn buddion cynhwysfawr sydd wedi'i gynllunio i gefnogi eich lles a'ch datblygiad proffesiynol. Pan fyddwch yn ymuno â'n gweithlu, gallwch edrych ymlaen at:

·       Hyd at 32 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn.

·       Yn dibynnu ar y maes gwasanaeth, efallai y bydd gennych hawl i opsiynau gweithio hyblyg a hybrid a gallech hefyd gael ‘diwrnodau hyblyg’, gan adeiladu amser i’w gymryd fel gwyliau trwy weithio pan fydd mwy o alw ar y gwasanaeth.

·       Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

·       Cynllun Gwobrwyo a Buddion.

·       Cyfleoedd hyfforddiant a datblygu.

·       Rhaglen Cymorth i Weithwyr a mentrau lles.

·       Cynllun Beicio i’r Gwaith.

·       Aelodaeth hamdden ratach.

·       Mynediad at becyn adleoli o hyd at £5,000.         

·       Rhaglen sefydlu fanwl.

 

I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, edrychwch ar y disgrifiad swydd atodedig sy'n cynnwys y meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd.

Ymunwch â ni yng Nghyngor Wrecsam a byddwch yn rhan o dîm ymroddedig sy'n gwneud gwahaniaeth yn ein cymuned.

Edrychwch ar ein buddion i weithwyr a fydd ar gael i chi wrth weithio yn y Cyngor os byddwch yn llwyddiannus yn eich cais (Gweithio i ni | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam). 

Mae angen gwiriad GDG Manwl a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.

Nid ydym yn noddwr trwyddedig â’r Swyddfa Gartref ar hyn o bryd, felly yn anffodus, ni allwn noddi ymgeisydd a fydd angen fisa i ymgymryd â’r rôl hon. 

Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â chymwysterau addas, waeth beth fo'u hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.

Mae’r Cyngor yn ymroddedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n dangos eu gallu i weithio yn y Gymraeg a’r Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg. 

 

Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:

Cysylltiadau
Cyswllt 1
Enw'r cyswllt: kim Stewart
Ffôn: 01978 295610
Cyfeiriad e-bost: kim.stewart@wrexham.gov.uk

Llywio Cyfrif

Heb Gofrestru?

  • Trwy gofrestru, byddwch yn gallu cadw gwybodaeth bersonol sy'n arbed amser pan fyddwch yn cofnodi'ch manylion, mae'n gadael ichi wneud cais am swyddi a rheoli'ch ceisiadau am swydd.
  • Cofrestrwch Nawr