Rheolwr Tîm Cynorthwyol – Tîm Un Pwynt Mynediad – Plant
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Cau: | 02/03/2025 |
Dyddiad Postio: | 10/02/2025 |
Cyfeirnod: | 08738 |
Disgrifiad
Rheolwr Tîm Cynorthwyol – Gwasanaethau Plant Wrecsam (Tîm Un Pwynt Mynediad)
Rhaid meddu ar gymhwyster Gwaith Cymdeithasol.
G11 £44,711 - £47,754 y flwyddyn
Rydym yn llawn cyffro i fod yn penodi Rheolwr Tîm Cynorthwyol ymrwymedig, creadigol a gwydn (sy’n gymwys i wneud Gwaith Cymdeithasol) i gefnogi ein taith wella barhaus tuag at arfer gorau. Dangosir hyn yn ein Harolygiad cadarnhaol diweddar.
Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gyfle cyffrous yn y Gwasanaethau Plant.
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd wedi ymrwymo i sicrhau newid i blant a phobl ifanc.
Pam ymuno â Wrecsam fel Rheolwr Tîm Cynorthwyol Plant?
Bydd ein gweithwyr cymdeithasol yn dweud wrthych: - "Maent yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi gan reolwyr, yn rhan o dîm, ac yn rhywle lle maent yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi". Mae Gweithwyr Cymdeithasol yn cael eu hannog a'u cefnogi i fod yn greadigol ac yn ymdrechu am ragoriaeth ym mhob maes.
Mae Gwasanaeth Plant Wrecsam yn rhywle lle gall pawb FFYNNU – drwy ein gwerthoedd craidd, sef gwaith tîm, gonestrwydd, parch, arloesedd, gwerth am arian a grymuso. Byddwn yn rhoi’r canlynol i chi:-
· Mae llais y plentyn yn ganolog i'n holl waith
· Bydd dulliau sy'n seiliedig ar drawma wrth wraidd eich ymarfer
· Amgylchedd gwaith cefnogol a chydweithredol
· Swyddfa fodern a llachar
· Cymorth a goruchwyliaeth ragorol gan reolwyr
· Datblygiad a dilyniant gyrfa personol
· Sesiynau datblygu ymarfer a chyfleoedd i fyfyrio
· Gwaith uniongyrchol sy’n seiliedig ar y dystiolaeth ddiweddaraf gyda phlant a phobl ifanc
YnglÅ·n â’r rôl
Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi plant a theuluoedd.
Byddwch yn rheoli gweithwyr cymwys ac anghymwys, gan ganolbwyntio ar gynnal y safonau proffesiynol uchaf trwy oruchwylio staff yn rheolaidd – yn ffurfiol ac yn anffurfiol. Byddwch yn gweithredu fel mentor i gydweithwyr ac yn arwain wrth sefydlu staff newydd. Bydd disgwyl i chi arwain a datblygu meysydd gwaith o fewn y tîm.
Bydd gennych yr wybodaeth ddiweddaraf am ddeddfwriaeth, cyfraith ac arfer gorau perthnasol ac rydym yn parhau i sicrhau datblygiad proffesiynol parhaus trwy gyfleoedd hyfforddi rhagorol.
Rydych yn weithiwr cymdeithasol plant rheng flaen profiadol sydd wedi ymrwymo i weithio ochr yn ochr â'r rheolwr tîm i roi cymorth i'r Gweithwyr Cymdeithasol a'r Aseswyr Gofal Cymdeithasol Plant mewn amgylchedd prysur a chefnogol.
Rydych yn rhydd-feddwl ac yn hyderus wrth wneud penderfyniadau a fydd yn cael ei ddangos yn eich goruchwyliaeth rheoli ardderchog o atgyfeiriadau a geir gan y tîm.
Byddwch yn gefnogol ac yn angerddol i gynorthwyo'r rheolwr i ddatblygu tîm sy'n perfformio'n dda, ac i gefnogi datblygiad staff i gyflawni'r canlyniadau gorau i blant a phobl ifanc.
Bydd gennych sgiliau cyfathrebu uwch, byddwch yn brofiadol mewn cadeirio cyfarfodydd a bydd gennych brofiad blaenorol o reoli achosion cymhleth.
Mae'r Tîm Un Pwynt Mynediad yn gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf, gan dderbyn ceisiadau am wybodaeth, cyngor a chymorth i gefnogi plant a theuluoedd a hefyd i ymchwilio i bryderon diogelu.
Mae'r Tîm Un Pwynt Mynediad yn dod â gweithwyr proffesiynol allweddol ynghyd i hwyluso rhannu gwybodaeth gynnar i gefnogi teuluoedd a diogelu plant. Cyflawnir hyn drwy gasglu gwybodaeth gan wahanol asiantaethau i lywio ymyriadau i gyflawni'r canlyniadau gorau i blant. Bydd Rheolwr Tîm Cynorthwyol yn yr UPM yn rheoli ein mewnflwch yn bennaf, gan wneud penderfyniadau ar atgyfeiriadau o ran ymateb cychwynnol yr awdurdodau lleol, byddant yn cefnogi ac yn goruchwylio gweithwyr cymdeithasol, yn adolygu achosion ac yn gwneud penderfyniadau a oes angen dyraniad ac yn mynychu cyfarfodydd gan gynnwys Trafodaethau Strategaeth a Chyfarfodydd Strategaeth. Mae gwybodaeth am y gyfraith yng Nghymru, gan gynnwys Adran 5, yn hanfodol.
Pam gweithio gyda ni?
Yng Nghyngor Wrecsam, rydym yn gwerthfawrogi ein gweithwyr ac yn cynnig pecyn buddion cynhwysfawr sydd wedi'i gynllunio i gefnogi eich lles a'ch datblygiad proffesiynol. Pan fyddwch yn ymuno â'n gweithlu, gallwch edrych ymlaen at:
· Hyd at 32 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn.
· Yn dibynnu ar y maes gwasanaeth, efallai y bydd gennych hawl i opsiynau gweithio hyblyg a hybrid a gallech hefyd gael ‘diwrnodau hyblyg’, gan adeiladu amser i’w gymryd fel gwyliau trwy weithio pan fydd mwy o alw ar y gwasanaeth.
· Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.
· Cynllun Gwobrwyo a Buddion.
· Cyfleoedd hyfforddiant a datblygu.
· Rhaglen Cymorth i Weithwyr a mentrau lles.
· Cynllun Beicio i’r Gwaith.
· Aelodaeth hamdden ratach.
· Mynediad at becyn adleoli o hyd at £5,000.
· Rhaglen sefydlu fanwl.
I gael rhagor o wybodaeth am y rôl, edrychwch ar y disgrifiad swydd atodedig sy'n cynnwys y meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd.
Ymunwch â ni yng Nghyngor Wrecsam a byddwch yn rhan o dîm ymroddedig sy'n gwneud gwahaniaeth yn ein cymuned.
Edrychwch ar ein buddion i weithwyr a fydd ar gael i chiwrth weithio yn y Cyngor os byddwch yn llwyddiannus yn eich cais (Gweithio i ni | Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam).
Mae angen gwiriad GDG Manwl a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.
Nid ydym yn noddwr trwyddedig â’r Swyddfa Gartref ar hyn o bryd, felly yn anffodus, ni allwn noddi ymgeisydd a fydd angen fisa i ymgymryd â’r rôl hon.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â chymwysterau addas, waeth beth fo'u hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol neu oedran.
Mae’r Cyngor yn ymroddedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n dangos eu gallu i weithio yn y Gymraeg a’r Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Kate Brooks |
Ffôn: | 01978 292039 |
Cyfeiriad e-bost: | kate.brooks@wrexham.gov.uk |
Cyswllt 2 | |
Enw'r cyswllt: | Einir Davies |
Ffôn: | 01978 295501 |
Cyfeiriad e-bost: | Einir.davies@wrexham.gov.uk |