Rheolwyr Tîm Cynorthwyol (TAY)
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Cau: | 02/03/2025 |
Dyddiad Postio: | 10/02/2025 |
Cyfeirnod: | 08739 |
Disgrifiad
G11 £40,478 - £43,516 y flwyddyn
Mae cyfleoedd
ar gael o fewn timau Gweithiwr Cymdeithasol y Tîm Asesu ac Ymyrraeth (TAY) a’r
Tîm Cymorth i Deuluoedd (TCD) ar gyfer Rheolwyr Tîm Cynorthwyol . Mae Cyngor
Wrecsam yn cefnogi hybrid a bydd hyn ar gael i ymgeiswyr llwyddiannus trwy
drafodaeth gyda’u rheolwr wrth ystyried anghenion y gwasanaeth. Rhaid i
ymgeiswyr feddu ar Radd mewn Gwaith Cymdeithasol neu gymhwyster cyfwerth.
Mae’r swydd yn
y ddau dîm yn golygu rheoli a goruchwylio tîm o weithwyr cymdeithasol gan
gyflawni bob agwedd ar ofal a chefnogaeth, amddiffyn plant, ymholiadau adran 47
a gwasanaethau cymorth i deuluoedd, gan gynnwys prosesau llys ac amlinelliad
cyfraith gyhoeddus, i deuluoedd sydd wedi eu hasesu ac sydd angen gwasanaethau
i ddiwallu anghenion plant diamddiffyn.
Bydd yr ymgeiswyr
llwyddiannus yn cael eu cefnogi gan dîm sefydledig o Reolwyr Tîm a Phenaethiaid
Gwasanaeth parhaol. Anogir datblygiad proffesiynol trwy ddarparu goruchwyliaeth
a chymorth yn rheolaidd i fynychu hyfforddiant ôl-gymhwyso a rheoli. Byddwch yn
gweithio mewn swyddfa sydd wedi ei hadnewyddu yng nghanol y dref.
Yn ddelfrydol
rydym yn edrych am ymgeisydd hynod fedrus a llawn cymhelliant sydd â chefndir
gofal plant cryf. Dylid cynnwys unrhyw brofiad rheoli neu sgiliau
trosglwyddadwy y gallwch eu cynnig i’r swydd, y tîm a Gwasanaethau Plant
Wrecsam.
Buddion
ychwanegol y byddwch yn eu cael wrth weithio i ni:
• Gwyliau blynyddol hael yn cychwyn o
25 diwrnod a hyd at 32 diwrnod y flwyddyn yn amodol ar wasanaeth parhaus
• Mynediad at becyn adleoli o hyd at
£5,000.
• Opsiynau gweithio’n hyblyg a’n
hymrwymiad i gefnogi iechyd a lles
• Rhaglen ymgynefino fanwl
• Rhaglen cymorth i weithwyr
• Cynllun buddion i weithwyr gan
gynnwys gostyngiadau manwerthu
• Cynllun Beicio i’r Gwaith
Mae’r rôl hon
yn cefnogi gweithio’n hybrid, sef cydbwysedd rhwng gweithio gartref a gweithio
mewn swyddfa.
Mae’r swydd
Rheolwr Tîm Cynorthwyol yn y Tîm Asesu ac Ymyrraeth/Cymorth i Deuluoedd yn denu
cymelldaliad recriwtio o £2,996 fel croeso i’r Cyngor.
Mae’r taliad
hwn yn un pro rata ar gyfer gweithwyr rhan amser. Mae’r taliad yn destun
didyniadau gweithiwyr arferol e.e. pensiwn, Yswiriant Gwladol a Threth ac mae
amodau a thelerau eraill yn berthnasol, gweler y nodyn canllaw Taliadau
Recriwtio a Chadw Staff i gael rhagor o fanylion.
Gweler y
wybodaeth am y buddion fydd ar gael i chi fel un o weithwyr y Cyngor os bydd
eich cais yn llwyddiannus (
I gael rhagor o
wybodaeth neu drafodaeth anffurfiol cysylltwch ag un ai
sarahj.gray@wrexham.gov.uk ar gyfer y TAY neu mike.jones@wrexham.gov.uk ar
gyfer y TCD
Mae angen
gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Gofal
Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.
Mae’r Cyngor yn
croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw,
anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn
ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan
ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd
ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a
gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Sarah Gray |
Ffôn: | 01978 292506 |
Cyfeiriad e-bost: | sarahj.gray@wrexham.gov.uk |