Neidio i'r Prif Gynnwys

Prif Dudalen Lywio

Hafan Cofrestru Sut i wneud cais Cymraeg English

Swyddog Cynnal a Chadw Adeiladau - Addysg

Manylion Swydd Wag


Crynodeb
Grŵp Swydd Wag: Llawn Amser Parhaol
Categori: Addysg ac Ymyrraeth Gynnar
Dyddiad Cau: 13/04/2025
Dyddiad Postio: 20/03/2025
Cyfeirnod: 08758

Disgrifiad

G09 £37,035 - £39,513 y flwyddyn
Mae'r Adran Addysg yn ceisio recriwtio chwaraewr tîm brwdfrydig i ymuno â’r Tîm Mynediad a Lleoedd Ysgol prysur.  
Bydd disgwyl i chi ddarparu gwybodaeth ac arbenigedd cynnal a chadw adeiladau ar gyfer pob adeilad ysgol, gan gynnwys gwaith cynnal a chadw adweithiol, deddfwriaethol, cynlluniedig a chylchol.  Byddwch yn darparu cyngor a chymorth i'r Tîm Mynediad a Lleoedd Ysgol ar gynnal a chadw adeiladau newydd ac adeiladau sy’n destun cynlluniau adnewyddu a gwella. Byddwch yn sicrhau bod portffolio eiddo Addysg y Cyngor yn bodloni gofynion deiliaid y gwasanaeth a'r holl reoliadau statudol.  Byddwch yn bersonol ymwybodol o, ac yn cadw at, systemau a phrosesau i sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth berthnasol ynghylch cynnal a chadw adeiladau 
Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr o’r tîm Rheoli Cyfleusterau (RhC) gan sicrhau bod cytundeb lefel gwsasanaeth RhC yr ysgol yn cael ei ddarparu a bod ysgolion yn cydymffurfio â'u holl gyfrifoldebau o dan y cytundeb hwn.  Elfen allweddol o'r rôl fydd sicrhau bod ysgolion nad ydynt yn prynu'r cytundeb lefel gwasanaeth RhC yn ôl yn cynnal a chadw eu hadeiladau’n gywir ac yn unol â gofynion cydymffurfiaeth statudol.
Mae gwybodaeth ac ymrwymiad i gydraddoldeb ac amrywiaeth yn ogystal â dealltwriaeth o bwysigrwydd yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru yn hanfodol.   I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch:
Carla Hughes, Rheolwr y Rhaglen - 01978 295424, carlam.hughes@Wrexham.gov.uk
neu Aled Pugh-Jones, Arweinydd RhC - 01978 315630, Aled.Jones@wrexham.gov.uk
Mae'r swydd wedi'i lleoli yn Adeiladau'r Goron, Wrecsam, gyda gofyniad i deithio i safleoedd ysgolion gwahanol ar draws y Fwrdeistref ac i brif swyddfa’r Adran Asedau a Datblygu Economaidd ar Ffordd Rhuthun.
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.

 

Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:

Cysylltiadau
Cyswllt 1
Enw'r cyswllt: Carla Hughes
Ffôn: 01978 295424
Cyfeiriad e-bost: carlam.hughes@Wrexham.gov.uk
Cyswllt 2
Enw'r cyswllt: Aled Pugh-Jones
Ffôn: 01978 315630
Cyfeiriad e-bost: Aled.Jones@wrexham.gov.uk

Llywio Cyfrif

Heb Gofrestru?

  • Trwy gofrestru, byddwch yn gallu cadw gwybodaeth bersonol sy'n arbed amser pan fyddwch yn cofnodi'ch manylion, mae'n gadael ichi wneud cais am swyddi a rheoli'ch ceisiadau am swydd.
  • Cofrestrwch Nawr