Gofal Cartref
Manylion Swydd Wag
| Crynodeb | |
|---|---|
| Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
| Categori: | Gofal Cymdeithasol |
| Dyddiad Cau: | 26/10/2025 |
| Dyddiad Postio: | 27/10/2025 |
| Cyfeirnod: | 09172 |
Disgrifiad
Gofal Cartref
Recriwtio staff gofal hirdymor
G05 £26,403 - £27,254 per annum
Rydym yn chwilio am staff i weithio o fewn y gwasanaeth gofal cartref hirdymor ar benwythnosau, i ddarparu gofal a chymorth i unigolion sy'n byw yn eu cartrefi eu hunain ledled bwrdeistref Wrecsam.
Mae cyfle cyffrous wedi codi i rywun sy’n frwdfrydig am waith cefnogi, sydd eisiau gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl er mwyn iddynt allu aros yn eu cartrefi eu hunain am fwy o amser, a rhywun sy’n awyddus i dderbyn her.
Ydych chi’n ystyried eich hun yn rhywun deinamig, llawn cymhelliant, sydd ag empathi a pharch?
Mae ein gwasanaeth cefnogaeth nos gofal cartref / ailalluogi yn chwilio am bobl fel chi.
Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn deall y gwahaniaethau mewn eraill ac yn ymdrechu i ddarparu gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Bydd yn gweithio’n dda fel aelod o dîm ac ar ei liwt ei hun a bydd yn gallu dilyn cynlluniau a chael gwared ar rwystrau i sicrhau bod canlyniadau’n cael eu cyflawni. Bydd yn hyblyg o ran dull gwaith ac yn ymroi i wneud gwahaniaeth cadarnhaol.
Mae’r gwasanaeth gwerthfawr hwn yn gweithio dros y sir gyfan, gan ddarparu cefnogaeth i oedolion diamddiffyn, rhwng 10pm a 7am dros 7 diwrnod yr wythnos yn gysylltiedig â’n gwasanaethau ehangach yn cynnwys gofal brys, y gwasanaeth ailalluogi ac i ddarparu cefnogaeth hirdymor.
Mae gwahanol fuddion yn cyd-fynd â’r swydd:
- Darperir ceir Cyngor istaff, sydd â system lwybro er mwyn darparu diogelwch ychwanegol i staff, felly mae trwydded yrru gyfredol a llawn yn hanfodol.
- Oriau gweithio hyblyg sy’n cynnig cydbwysedd bywyd a gwaith cadarnhaol
- Cyfleoedd i ddatblygu
- Iwnifform wedi’i darparu
- Cynllun pensiwn gwych
Oherwydd natur anghenion yr unigolyn rydym ni’n eu cefnogi ar hyn o bryd, mae gofyniad galwedigaethol gwirioneddol i’r swydd gael ei llenwi gan staff benywaidd.
I gynorthwyo unrhyw ymgeiswyr sydd â diddordeb, rydym ni’n cynnig sesiynau cwrdd a chyfarch i helpu i roi arweiniad a chyngor am y swydd, ac unrhyw gefnogaeth os oes angen help i wneud cais.
Rydym yn gweithredu cynllun sicrhau cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr â'r cymwysterau priodol sydd ag anableddau ac rydym wedi ymrwymo i Gyfleoedd Cyfartal.
Mae Cyngor Wrecsam yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr cymwys beth bynnag fo'u hil, rhyw, anabledd, tueddfryd rhywiol, crefydd neu oedran.
Mae Gofal Cymdeithasol i Oedolion yn ceisio cynyddu nifer ei weithlu sy’n siarad Cymraeg i gwrdd ag anghenion y gymuned rydym ni’n ei gwasanaethu, felly byddwn yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n gallu gweithio yn Gymraeg a Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
| Cysylltiadau | |
|---|---|
| Cyswllt 1 | |
| Enw'r cyswllt: | Delyth Pridding |
| Ffôn: | 07557498827 |
| Cyfeiriad e-bost: | delyth.pridding@wrexham.gov.uk |