Neidio i'r Prif Gynnwys

Prif Dudalen Lywio

Hafan Cofrestru Sut i wneud cais Cymraeg English

Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol (Cyfarwyddwr Gofal Cymdeithasol statudol)

Manylion Swydd Wag


Crynodeb
Grŵp Swydd Wag: Llawn Amser Parhaol
Categori: Gofal Cymdeithasol
Dyddiad Cau: 19/02/2020
Dyddiad Postio: 06/02/2020
Cyfeirnod: 04668

Disgrifiad

Graddfa/Cyflog:  £86,700 – £96,900 (yn cael ei adolygu ar hyn o bryd)      

Bydd ein polisi adleoli yn berthnasol i'r swydd hon 

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno a’n Uwch Dîm Arweinyddiaeth, yn adrodd yn uniongyrchol i’r Prif Weithredwr. Byddwch yn arwain ar faes eich portffolio, yn ogystal â chyfrannu’n weithredol i’n nodau arweinyddiaeth casgliadol er mwyn darparu gwelliannau hirdymor a gwasanaethau cynaliadwy ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.  Mae’r gwasanaeth hwn yn flaenoriaeth sefydliadol ac mae ganddo fwrdd rhaglen ar waith i gefnogi gwelliannau a chynnig am fuddsoddiad ychwanegol o £1.5m yng nghyllideb 2020/21.

Mae’r portffolio hwn yn cynnwys rhai o’n gwasanaethau mwyaf gweledol a phwysig. Byddwch yn cynghori’r Prif Weithredwr a’n Haelodau Etholedig ar faterion a strategaethau allweddol, yn ogystal ag arwain ar rai o’n gwaith newid pwysicaf, a phrosiectau partneriaeth eraill. Bydd disgwyliadau’n uchel o fewn a thu allan i’r Cyngor ond bydd atebolrwydd a chefnogaeth gref yn cael ei ddarparu’n gyfunol .

Byddwch yn gallu dangos sgiliau arweinyddiaeth ardderchog a gweladwy, yn gyfathrebwr medrus gyda llwyddiant blaenorol o ddylunio a darparu gwasanaethau i gwsmeriaid a rhaglenni newid arloesol a gwell. Rydym yn chwilio am rhywun gyda gwybodaeth a sgiliau ardderchog yn y meysydd hyn yn ogystal â gallu arwain newid diwylliannol sy’n annog sgyrsiau gonest drwy’r gwasanaeth ac yn hyrwyddo diwylliant ‘Un Cyngor’.

I wybod mwy am y swydd bwysig hon ewch i https://www.adeiladuarlwyddiant.cymru

I gael trafodaeth gyfrinachol gyda’r Prif Weithredwr ar ein blaenoriaethau strategol a’n gweledigaeth ar gyfer y dyfodol  cysylltwch â 01978 292101 neu i wybod mwy am y gwasanaeth gan y Prif Swyddog presennol cysylltwch â 01978 297510.

Rhestr fer 24 Chwefror 2020

Proses ddewis (2 ddiwrnod) 17 & 18 Mawrth 2020


Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:

Cysylltiadau
Cyswllt 1
Enw'r cyswllt: Chief Executive
Ffôn: 01978 292101
Cyfeiriad e-bost: ian.bancroft@wrexham.gov.uk

Llywio Cyfrif

Heb Gofrestru?

  • Trwy gofrestru, byddwch yn gallu cadw gwybodaeth bersonol sy'n arbed amser pan fyddwch yn cofnodi'ch manylion, mae'n gadael ichi wneud cais am swyddi a rheoli'ch ceisiadau am swydd.
  • Cofrestrwch Nawr