Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol (Cyfarwyddwr Gofal Cymdeithasol statudol)
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Cau: | 19/02/2020 |
Dyddiad Postio: | 06/02/2020 |
Cyfeirnod: | 04668 |
Disgrifiad
Graddfa/Cyflog: £86,700 – £96,900 (yn cael ei adolygu ar hyn o bryd)
Bydd ein polisi adleoli yn berthnasol i'r swydd hon
Mae hwn yn
gyfle cyffrous i ymuno a’n Uwch Dîm Arweinyddiaeth, yn adrodd yn uniongyrchol
i’r Prif Weithredwr. Byddwch yn arwain ar faes eich portffolio, yn ogystal â
chyfrannu’n weithredol i’n nodau arweinyddiaeth casgliadol er mwyn darparu
gwelliannau hirdymor a gwasanaethau cynaliadwy ar gyfer Cyngor Bwrdeistref
Sirol Wrecsam. Mae’r gwasanaeth hwn yn
flaenoriaeth sefydliadol ac mae ganddo fwrdd rhaglen ar waith i gefnogi
gwelliannau a chynnig am fuddsoddiad ychwanegol o £1.5m yng nghyllideb 2020/21.
Mae’r portffolio hwn yn cynnwys rhai
o’n gwasanaethau mwyaf gweledol a phwysig. Byddwch yn cynghori’r Prif Weithredwr
a’n Haelodau Etholedig ar faterion a strategaethau allweddol, yn ogystal ag
arwain ar rai o’n gwaith newid pwysicaf, a phrosiectau partneriaeth eraill. Bydd disgwyliadau’n
uchel o fewn a thu allan i’r Cyngor ond bydd atebolrwydd a chefnogaeth gref yn
cael ei ddarparu’n gyfunol .
Byddwch yn gallu dangos sgiliau arweinyddiaeth ardderchog a gweladwy, yn gyfathrebwr medrus gyda llwyddiant blaenorol o ddylunio a darparu gwasanaethau i gwsmeriaid a rhaglenni newid arloesol a gwell. Rydym yn chwilio am rhywun gyda gwybodaeth a sgiliau ardderchog yn y meysydd hyn yn ogystal â gallu arwain newid diwylliannol sy’n annog sgyrsiau gonest drwy’r gwasanaeth ac yn hyrwyddo diwylliant ‘Un Cyngor’.
I wybod mwy am y swydd bwysig hon ewch i https://www.adeiladuarlwyddiant.cymru
I gael trafodaeth gyfrinachol gyda’r
Prif Weithredwr ar ein blaenoriaethau strategol a’n gweledigaeth ar gyfer y
dyfodol cysylltwch â 01978 292101 neu i
wybod mwy am y gwasanaeth gan y Prif Swyddog presennol cysylltwch â 01978 297510.
Rhestr fer 24 Chwefror 2020
Proses ddewis (2 ddiwrnod) 17 & 18 Mawrth 2020
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Chief Executive |
Ffôn: | 01978 292101 |
Cyfeiriad e-bost: | ian.bancroft@wrexham.gov.uk |