Prif Swyddog Addysg ac Ymyrraeth Gynnar (Prif Swyddog Addysg statudol)
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Addysg ac Ymyrraeth Gynnar |
Dyddiad Cau: | 19/02/2020 |
Dyddiad Postio: | 24/01/2020 |
Cyfeirnod: | 04670 |
Disgrifiad
Graddfa/Cyflog: £86,700 – £96,900 (yn cael ei adolygu ar hyn o bryd)
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno a’n Uwch Dîm Arweinyddiaeth, yn adrodd yn uniongyrchol i’r Prif Weithredwr. Byddwch yn arwain ar faes eich portffolio, yn ogystal â chyfrannu’n weithredol i’n nodau arweinyddiaeth casgliadol er mwyn darparu gwelliannau hirdymor a gwasanaethau cynaliadwy ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae’r gwasanaeth hwn yn flaenoriaeth sefydliadol ac mae ganddo fwrdd rhaglen ar waith i gefnogi gwelliannau a chynnig am fuddsoddiad ychwanegol o £1m yng nghyllideb 2020/21.
Mae’r portffolio hwn yn cynnwys rhai o’n gwasanaethau mwyaf gweledol a phwysig. Byddwch yn cynghori’r Prif Weithredwr a’n Haelodau Etholedig ar faterion a strategaethau allweddol, yn ogystal ag arwain ar rai o’n gwaith newid pwysicaf, a phrosiectau partneriaeth eraill. Bydd disgwyliadau’n uchel o fewn a thu allan i’r Cyngor ond bydd atebolrwydd a chefnogaeth gref yn cael ei ddarparu’n gyfunol .
Byddwch yn gallu dangos sgiliau arweinyddiaeth ardderchog a gweladwy, yn gyfathrebwr medrus gyda llwyddiant blaenorol o ddylunio a darparu gwasanaethau i gwsmeriaid a rhaglenni newid arloesol a gwell. Rydym yn chwilio am rhywun gyda gwybodaeth a sgiliau ardderchog yn y meysydd hyn yn ogystal â gallu arwain newid diwylliannol sy’n annog sgyrsiau gonest drwy’r gwasanaeth ac yn hyrwyddo diwylliant ‘Un Cyngor’.
I wybod mwy am y swydd bwysig hon ewch i https://www.adeiladuarlwyddiant.cymru
I gael trafodaeth gyfrinachol gyda’r Prif Weithredwr ar ein blaenoriaethau strategol a’n gweledigaeth ar gyfer y dyfodol cysylltwch â 01978 292101 neu i wybod mwy am y gwasanaeth gan y Prif Swyddog presennol cysylltwch â 01978 297510.
Rhestr Fer: 24 Chwefror 2020
Proses ddewis: 23 & 24 (2 ddiwrnod) Mawrth 2020
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Chief Executive |
Ffôn: | 01978 292101 |
Cyfeiriad e-bost: | ian.bancroft@wrexham.gov.uk |