Cydlynydd Gwasanaeth Pobl Ifanc
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Rhan Amser Parhaol |
Categori: | Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Cau: | 28/06/2020 |
Dyddiad Postio: | 12/06/2020 |
Cyfeirnod: | 04738 |
Disgrifiad
G07 - £23,836 - 25,295 pro rata
18.5 awr
Mae Gwasanaeth Mabwysiadu
Gogledd Cymru (GMGC) yn chwilio am 1 Cydlynydd Gwasanaeth Pobl Ifanc i ymuno
â’n tîm ymroddedig o staff. Bydd deiliad y swydd yn gweithio yng
Nghonwy ond bydd disgwyl iddo/iddi deithio ledled gogledd Cymru i ddarparu’r
gwasanaeth.
Yn y swydd
newydd sbon hon mae gofyn i ddeiliad y swydd:
· Meithrin a chynnal perthnasoedd gwaith positif ac effeithiol gyda phlant sydd wedi'u mabwysiadu a hyrwyddo mynediad at wasanaethau grwpiau cymorth ar eu cyfer
· Gweithredu fel eiriolwr i blant a phobl ifanc sydd wedi’u mabwysiadu a’u cefnogi i gyflawni eu nodau unigol
· Cynorthwyo i ddarparu elfennau o’r gwasanaeth sy'n gysylltiedig ag unigolion a grwpiau
· Defnyddio ymyriadau sy'n addas i gam datblygiad y plentyn
· Gweithio ar eich menter eich hun, yn unol â’r holl asesiadau risg, a chynlluniau gofal i hyrwyddo lles plant unigol
· Datblygu’ch sgiliau proffesiynol ar ffurf datblygiad parhaus
Mae hwn yn
gyfnod cyffrous i ymuno â Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru ac rydym yn
awyddus i dderbyn ceisiadau gan bobl brofiadol a llawn cymhelliant sydd â
diddordeb mewn datblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau ym maes Mabwysiadu.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Jo Spender |
Ffôn: | 01978 295420 |
Cyfeiriad e-bost: | Jo.Spender@wrexham.gov.uk |