Rheolwr Tîm Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Cau: | 17/05/2020 |
Dyddiad Postio: | 30/04/2020 |
Cyfeirnod: | 04739 |
Disgrifiad
G11 £36,876 -
£39,782
Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru (GMGC) yn wasanaeth rhanbarthol
sy’n recriwtio, hyfforddi, asesu a chefnogi mabwysiadwyr a dod o hyd i
deuluoedd ar gyfer Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Wrecsam ac Ynys
Môn.
Bydd pob Rheolwr Tîm yn arwain ac yn cymell tîm bach o staff a fydd yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau mabwysiadu hynod effeithiol yn unol â deddfwriaeth, rheoliadau, canllawiau a fframweithiau ymarfer da perthnasol Gwynedd a Ynys Môn.
Bydd gan ddeiliaid y swyddi:
Brofiad o weithio ym maes mabwysiadu
Sgiliau cyfathrebu ardderchog
Profiad fel rheolwr atebol
Y gallu i weithio’n annibynnol
Profiad o Brosesau’r Llys
Y gallu i siarad Cymraeg
Profiad o reoli perfformiad
Y gallu i reoli’n effeithiol o fewn y fframwaith cyllideb ar gyfer darparu’r gwasanaeth
Y gallu i deithio ledled gogledd Cymru
Mae hwn yn gyfle ardderchog i arweinwyr positif sy’n angerddol am Fabwysiadu ac sydd â sgiliau rheoli cryf i ymuno â GMGC ar adeg pam fo’r gwasanaeth yn ehangu ac yn datblygu.
Bydd angen i chi gael gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Jo Spender |
Ffôn: | 01978 295420 |
Cyfeiriad e-bost: | Jo.Spender@wrexham.gov.uk |