Cydlynydd TESSA
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Cau: | 08/03/2020 |
Dyddiad Postio: | 03/03/2020 |
Cyfeirnod: | 04740 |
Disgrifiad
G07 -£23,836 - £25,295
Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru (GMGC) yn chwilio
am 1 Cydlynydd Gwasanaeth Cymorth Addysg Therapi mewn Mabwysiadu (TESSA) i
ymuno â’n tîm ymroddedig o staff. Bydd deiliad y swydd yn gweithio yng Nghonwy ond bydd disgwyl iddo/iddi
deithio ledled gogledd Cymru i ddarparu’r gwasanaeth.
Yn y swydd newydd sbon hon mae gofyn i ddeiliad y swydd:
·
Sicrhau
bod gwasanaethau i deuluoedd sy’n mabwysiadu mewn ysgolion yn cael ei gydlynu’n
dda ledled gogledd Cymru.
·
Cynorthwyo
rhieni sy'n mabwysiadu a phlant sydd wedi’u mabwysiadu i gael gafael
ar wasanaethau
cymorth therapiwtig priodol o fewn ysgolion
·
Cynorthwyo
i recriwtio, hyfforddi a chefnogi Partneriaid Rhieni TESSA
·
Trefnu
gweithdai a darparu hyfforddiant penodol i rieni sy’n mabwysiadu
·
Meithrin
a chynnal perthnasoedd gwaith positif ac effeithiol gyda rhieni sy’n mabwysiadu
a phlant sydd wedi'u mabwysiadu a hyrwyddo mynediad at wasanaethau grwpiau
cymorth ar eu cyfer
·
Gweithio
mewn partneriaeth ag aelodau o GMGC a gweithwyr proffesiynol eraill a chyfrannu
at y gwaith o asesu, cynllunio ac adolygu cefnogaeth i blant sydd wedi'u
mabwysiadu a'u teuluoedd
·
Datblygu’ch
sgiliau proffesiynol ar ffurf datblygiad parhaus
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â Gwasanaeth
Mabwysiadu Gogledd Cymru ac rydym yn awyddus i dderbyn ceisiadau gan bobl
brofiadol a llawn cymhelliant sydd â diddordeb mewn datblygu eu gwybodaeth a’u
sgiliau ym maes Mabwysiadu.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Jo Spender |
Ffôn: | 01978 295420 |
Cyfeiriad e-bost: | Jo.Spender@wrexham.gov.uk |