Arweinydd Gwasanaeth – Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Dros Dro |
Categori: | Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Cau: | 28/06/2020 |
Dyddiad Postio: | 12/06/2020 |
Cyfeirnod: | 04745 |
Disgrifiad
G13 £44632 - £47537
Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru (GMGC) yn wasanaeth rhanbarthol sy’n recriwtio, hyfforddi, asesu a chefnogi mabwysiadwyr a dod o hyd i deuluoedd ar gyfer Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Wrecsam ac Ynys Môn.
Mae hwn yn gyfle gwych i ymgymryd â swydd newydd ei chreu yn gweithio ar draws y rhanbarth ar adeg pan mae'r gwasanaeth yn datblygu ac yn ehangu.
Drwy weithio gydag aelodau o Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru, partneriaid strategol, a chydweithwyr o’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, bydd gofyn i ddeiliad y swydd arwain ar gynllunio, datblygu a sicrhau gwelliant parhaus i’r Gwasanaethau Mabwysiadu ar draws y rhanbarth.
Byddwch yn meddu ar sgiliau cyfathrebu cryf yn ysgrifenedig ac ar lafar, bydd gennych ymagwedd hyblyg ac yn gallu teithio’n rheolaidd ar draws y rhanbarth a ledled Cymru i gynrychioli Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru ar lefel strategol.
Dyma gyfle i arweinydd cadarnhaol sydd â sgiliau rheoli ac arwain cryf a phrofiad helaeth o ddarparu Gwasanaethau Mabwysiadu ymuno â Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru, a hynny ar adeg pan fyddwch yn gallu chwarae rhan allweddol yn y broses o siapio cyfeiriad a datblygiad y Gwasanaeth.Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Jo Spender |
Ffôn: | 01978 295420 |
Cyfeiriad e-bost: | Jo.Spender@Wrexham.gov.uk |