Uwch ddadansoddwr technegol ysgolion-gweinyddion a diogelwch
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Addysg ac Ymyrraeth Gynnar |
Dyddiad Cau: | 13/03/2020 |
Dyddiad Postio: | 20/02/2020 |
Cyfeirnod: | 04756 |
Disgrifiad
G09 £29,636 - £32,029
Rydym yn chwilio am unigolyn dawnus, creadigol gyda meddwl technegol i ymuno â’n Gwasanaeth Cefnogi TGCh Ysgolion.
Ym mis Gorffennaf 2019 cyhoeddodd Gweinidog Addysg Cymru gyllid o £50m ar gyfer rhaglen TGCh mewn ysgolion. Bydd y Rhaglen Trawsnewid Hwb yn newid tirwedd Technoleg Addysgol mewn ysgolion. Fel aelod o dîm Cefnogaeth Ddigidol Ysgolion, byddwch yn gweithio ochr yn ochr â’r Rheolwr Strategaeth TGCh ar gyfer Addysg a’r Dadansoddwr Technegol Arweiniol i ddarparu isadeiledd digidol newydd i’r 69 o ysgolion yn Wrecsam.
Fel uwch aelod o’r tîm, byddwch yn darparu arweinyddiaeth a lefel uchel o arbenigedd technegol ar Weinyddion, LAN, Diogelwch, Ffeiliau Wrth Gefn a gwasanaethau’r Cyfeiriadur Gweithredol ac yn gyfrifol am adolygu ystod o opsiynau technegol, gan ddarparu argymhellion gwybodus ynghylch dewis technoleg ac addasrwydd cynnyrch.
Mae sgiliau datrys problemau rhagorol yn hanfodol yn y swydd hynod dechnegol hon, yn ogystal â'r gallu i weithio ar y safle mewn ystafell ddosbarth brysur neu o bell drwy ystod o offer mynediad o bell. Byddwch yn gyfathrebwr da gyda sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig ac ar lafar rhagorol, a byddwch yn hyderus wrth ddarparu cymorth i ddefnyddwyr gydag ystod o sgiliau a phrofiad technegol.
Mae angen gwiriad
manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Gofal Cymdeithasol
Cymru ar gyfer y swydd hon.
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar 24.03.2010
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Steffan Carter |
Ffôn: | 01978 292378 |
Cyfeiriad e-bost: | steffan.carter@wrexham.gov.uk |