Gweithiwr Cymorth i Deuluoedd Sesiynol
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Achlysurol |
Categori: | Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Cau: | 31/10/2021 |
Dyddiad Postio: | 12/10/2021 |
Cyfeirnod: | 04932 |
Disgrifiad
G07 £12.70 - £13.47 yr awr
Mae Cyngor Wrecsam wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau Gofal Cymdeithasol o ansawdd uchel. Er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau hyn yn parhau, rydym am recriwtio Gweithwyr Cefnogi Teuluoedd ymroddedig ac angerddol i gynorthwyo â darparu gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i blant a’u teuluoedd ar sail sesiynol.
Mae gwaith sesiynol yn ddelfrydol i chi os ydych eisoes wedi cael rhywfaint o brofiad ym maes Gofal Cymdeithasol; os ydych chi’n Fyfyriwr Gwaith Cymdeithasol; neu os ydych am ddychwelyd i Ofal Cymdeithasol mewn cyfnod lle mae COVID19 yn rhoi rhagor o alw ar wasanaethau.
Yn gyfnewid am eich profiad a’ch sgiliau, gallwn gynnig cymorth ymsefydlu cynhwysfawr, mynediad i gefnogaeth rheoli i chi a thîm cyfeillgar a chefnogol o gydweithwyr.
Bydd angen gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd.
Cynigir Gwaith Sesiynol ar sail ‘pan fydd angen’ felly ni allwn warantu eich oriau, hefyd nid oes rhaid i chi gymryd y gwaith a gynigir ac mae modd i chi weithio gydag unrhyw sefydliad arall.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n
croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac
yn Saesneg. Ni
fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na
chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Margaret Clark |
Ffôn: | 01978 295640 |
Cyfeiriad e-bost: | margaret.clark@wrexham.gov.uk |