Swyddog Rheoli Prosiect a Newid
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Llywodraethu a Chwsmeriad |
Dyddiad Cau: | 04/10/2020 |
Dyddiad Postio: | 18/09/2020 |
Cyfeirnod: | 04981 |
Disgrifiad
G08 £26,317 - £28,785
Mae Arweinydd Tîm
y Gwasanaethau Digidol yn dymuno penodi unigolyn brwdfrydig a llawn cymhelliant
i ymuno â thîm sy’n gweithio’n gyflym ac sy’n flaengar.
Bydd yr ymgeisydd
llwyddiannus angen profiad o reoli prosiectau a gallu gweithio ar nifer o
brosiectau Digidol lefel uchel gydag amrywiaeth o fudd-ddeiliaid. Byddant yn gallu
gweithio gyda thimau ac adrannau er mwyn gwella prosesau a gwasanaethau a bydd
modd iddynt weld ble mae angen newid a sut i’w weithredu gan ddefnyddio’r
gwasanaethau Digidol a phlatfformau sydd ar gael i’r Cyngor.
Mae profiad o
fapio proses, ail-ddylunio prosesau a chreu ffurflen sy’n seiliedig ar y we yn
hanfodol.
Byddant angen
dealltwriaeth o Lywodraeth Leol a’r rôl bwysig y mae cyfrwng Digidol yn ei
chwarae wrth wneud arbedion ariannol ac ynni.
Mae dealltwriaeth
gref o wasanaethau Digidol a TGCh yn hanfodol, a dylai’r ymgeisydd fod yn
hyderus wrth sôn am y manteision gyda budd-ddeiliaid, yn ogystal â chwsmeriaid
mewnol ac allanol.
Bydd
gwerthfawrogiad o’r Gymraeg, a phwysigrwydd diwylliant Cymru yn rhan bwysig o’r
swydd hon.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Rob Griffiths |
Ffôn: | 01978 298865 |
Cyfeiriad e-bost: | Rob.Griffiths@wrexham.gov.uk |