Dadansoddwr Technegol
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Cyllid a TGCh |
Dyddiad Cau: | 08/11/2020 |
Dyddiad Postio: | 23/10/2020 |
Cyfeirnod: | 05124 |
Disgrifiad
G09 - £30,451 - £32,910
Mae gan y Gwasanaeth TGCh gyfle cyffrous i ymuno â’r tîm Gwasanaethau Defnyddwyr.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â thîm o arbenigwyr sy’n cefnogi ac yn rheoli dyfeisiau 2,400 o ddefnyddwyr corfforaethol. Mae hyn yn cynnwys cefnogi gliniaduron, dyfeisiau symudol a pheiriannau argraffu ar gyfer gweithlu swyddfa a gweithwyr sy’n gweithio gartref neu ar hyd y Sir.
Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd arwain, datblygu a chefnogi ystod o feysydd technoleg defnyddwyr a dylai fod â phrofiad o gyflwyno a rheoli dyfeisiau mewn amgylchedd menter. Dylai fod â phrofiad o offerynnau rheoli dyfeisiau a Windows 10 fel SCCM a Blackberry UEM.
Mae sgiliau cyfathrebu a gwasanaeth cwsmeriaid ardderchog hefyd yn bwysig iawn, yn ogystal â hunangymhelliant, gallu gweithio dan bwysau a gallu mentora aelodau eraill o’r tîm.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Germaine Hughes |
Ffôn: | 01978 292371 |
Cyfeiriad e-bost: | germaine.hughes@wrexham.gov.uk |