Neidio i'r Prif Gynnwys

Prif Dudalen Lywio

Hafan Cofrestru Sut i wneud cais Cymraeg English

Swyddog Cofrestru

Manylion Swydd Wag


Crynodeb
Grŵp Swydd Wag: Rhan Amser Parhaol
Categori: Llywodraethu a Chwsmeriad
Dyddiad Cau: 15/11/2020
Dyddiad Postio: 30/10/2020
Cyfeirnod: 05136

Disgrifiad

Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chofrestru 

G06 - £17,633 - £18,713 y flwyddyn 

30 awr yr wythnos 

Mae Gwasanaeth Cofrestru Wrecsam yn dymuno penodi Swyddog Cofrestru i ymgymryd ag ystod lawn o ddyletswyddau. Bydd y dyletswyddau’n cynnwys cofrestru genedigaethau, marwolaethau, priodasau a phartneriaethau sifil a pheth gwaith dinasyddiaeth. Bydd bod yn dyst i hysbysiadau o briodasau a phartneriaethau sifil, ynghyd â chynnal ystod eang o seremonïau eraill, hefyd yn rhan o rôl a chyfrifoldebau deiliad y swydd. 

Bydd gennych safon dda o addysg a phrofiad o weithio mewn amgylchedd sy’n canolbwyntio ar y cwsmer. Dylech fod yn hyderus wrth siarad yn gyhoeddus, yn gallu dilyn cyfarwyddiadau technegol / statudol ac yn ddelfrydol, bydd gennych ddealltwriaeth ymarferol o’r rheoliadau statudol ar gyfer genedigaethau, marwolaethau, priodasau a phartneriaethau sifil. 

Mae hyblygrwydd, y gallu i dalu sylw i fanylion a chywirdeb yn ffactorau allweddol o fewn y swydd hon. Mae trwydded yrru lawn a’r defnydd o gar yn hanfodol gan y bydd gofyn i chi deithio i leoliadau eraill yn ôl y galw.

Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:

Cysylltiadau
Cyswllt 1
Enw'r cyswllt: Susan Lloyd
Ffôn: 01978 298997
Cyfeiriad e-bost: Susan.Lloyd@wrexham.gov.uk

Llywio Cyfrif

Heb Gofrestru?

  • Trwy gofrestru, byddwch yn gallu cadw gwybodaeth bersonol sy'n arbed amser pan fyddwch yn cofnodi'ch manylion, mae'n gadael ichi wneud cais am swyddi a rheoli'ch ceisiadau am swydd.
  • Cofrestrwch Nawr