Swyddog Cofrestru
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Rhan Amser Parhaol |
Categori: | Llywodraethu a Chwsmeriad |
Dyddiad Cau: | 15/11/2020 |
Dyddiad Postio: | 30/10/2020 |
Cyfeirnod: | 05136 |
Disgrifiad
Gwasanaethau Cyfreithiol, Democrataidd a Chofrestru
G06 - £17,633 - £18,713 y flwyddyn
30 awr yr wythnos
Mae Gwasanaeth Cofrestru Wrecsam yn dymuno penodi Swyddog Cofrestru i ymgymryd ag ystod lawn o ddyletswyddau. Bydd y dyletswyddau’n cynnwys cofrestru genedigaethau, marwolaethau, priodasau a phartneriaethau sifil a pheth gwaith dinasyddiaeth. Bydd bod yn dyst i hysbysiadau o briodasau a phartneriaethau sifil, ynghyd â chynnal ystod eang o seremonïau eraill, hefyd yn rhan o rôl a chyfrifoldebau deiliad y swydd.
Bydd gennych safon dda o addysg a phrofiad o weithio mewn amgylchedd sy’n canolbwyntio ar y cwsmer. Dylech fod yn hyderus wrth siarad yn gyhoeddus, yn gallu dilyn cyfarwyddiadau technegol / statudol ac yn ddelfrydol, bydd gennych ddealltwriaeth ymarferol o’r rheoliadau statudol ar gyfer genedigaethau, marwolaethau, priodasau a phartneriaethau sifil.
Mae hyblygrwydd, y gallu i dalu sylw i fanylion a chywirdeb yn ffactorau
allweddol o fewn y swydd hon. Mae trwydded yrru lawn a’r defnydd o gar yn
hanfodol gan y bydd gofyn i chi deithio i leoliadau eraill yn ôl y galw.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Susan Lloyd |
Ffôn: | 01978 298997 |
Cyfeiriad e-bost: | Susan.Lloyd@wrexham.gov.uk |