Neidio i'r Prif Gynnwys

Prif Dudalen Lywio

Hafan Cofrestru Sut i wneud cais Cymraeg English

Prif Swyddog Cyllid a TGCh (Swyddog Adran 151)

Manylion Swydd Wag


Crynodeb
Grŵp Swydd Wag: Llawn Amser Parhaol
Categori: Cyllid a TGCh
Dyddiad Cau: 04/03/2021
Dyddiad Postio: 08/02/2021
Cyfeirnod: 05217

Disgrifiad

Cyflog £89,085 – £99,565  (dan adolygiad, mae’n bosibl y bydd modd ei ymestyn lle bo angen yn sgil amodau arbennig) bydd ein polisi ail-leoli hefyd yn berthnasol i’r swydd hon.

Yn sgil ymddeoliad deiliad presennol y swydd, mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno a’n Uwch Dîm Rheoli, yn adrodd yn uniongyrchol i’r Prif Weithredwr. Byddwch yn arwain ar y portffolio Cyllid a TGCh, ac yn cyfrannu’n weithredol at ein nodau arweinyddiaeth casgliadol er mwyn darparu gwelliannau hirdymor a gwasanaethau cynaliadwy ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. 

Mae gennym enw da am reolaeth gyllidol gadarn a threfniadau llywodraethu uchel eu parch ac rydym yn chwilio am rywun i fynd â ni ymhellach ar y siwrnai hon ac adeiladu ar y llwyddiant. Byddwch yn chwarae rhan hanfodol yn darparu blaenoriaethau Cynllun y Cyngor ynghyd â chyfrifoldebau penodol dan y thema Trefniadaeth, “parhau i foderneiddio ein gwasanaethau a chefnogi Cyngor cadarn.”

Fel prif ymgynghorydd y Cyngor ar faterion ariannol, rydym yn chwilio am unigolyn sy’n meddu ar sgiliau arweinyddiaeth ardderchog a gweladwy, sgiliau proffesiynol a gwybodaeth i ddatblygu perthnasoedd a phartneriaethau effeithiol gydag ystod o fudd-ddeiliaid mewnol ac allanol.

Byddwch yn cynghori’r Prif Weithredwr, a’n Haelodau Etholedig ar faterion allweddol, a strategaethau ariannol, yn ogystal ag arwain ar rai o’n gwaith newid pwysicaf, a phrosiectau partneriaeth eraill. Bydd y disgwyliadau’n uchel o fewn ac y tu allan i’r Cyngor, ond bydd atebolrwydd ar y cyd a chefnogaeth gryf yn cael eu darparu.

Mae’r portffolio’n cynnwys nifer o wasanaethau pwysig y byddwch yn eu harwain, eu datblygu a’u gwella’n barhaus er mwyn sicrhau darpariaeth gwasanaeth cefnogi effeithiol, gan sicrhau safonau ariannol cryf a llywodraethu ehangach. Bydd arnoch chi angen dealltwriaeth o gyllid llywodraeth leol a’r materion sy’n wynebu meysydd y portffolio.

Yn ogystal â gweithredu fel ein prif swyddog cyllid, mae’r rôl yn cynnwys gweithredu fel swyddog statudol ar gyfer Swyddog Adran 151, sy’n ymofyn cymhwyster cyfrifyddiaeth perthnasol,  cymhwyster Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth neu gyfwerth.   

Bydd gennych lwyddiant blaenorol o  gyflawni canlyniadau strategol yn y meysydd portffolio hyn a'r sgiliau i ddylanwadu ac arwain eraill. Bydd gennych y gallu i arwain ar newid diwylliannol, gan annog sgyrsiau gonest trwy gydol y gwasanaeth a hyrwyddo diwylliant ‘Un Cyngor’. Os oes gennych y gallu i ddarparu cefnogaeth ariannol, fasnachol a strategol gref i Swyddogion ac Aelodau'r Cyngor yn y rôl ganolog hon, byddem yn croesawu cais gennych chi.  

I ddarganfod mwy am y swydd hon, ymwelwch â https://www.adeiladuarlwyddiant.cymru/

DYDDIAD CAU: hanner dydd, dydd Iau 4 Mawrth 2021

Llunio rhestr fer: yr wythnos sy’n dechrau ar 8 Mawrth 2021. 

Proses ddethol: yr wythnos sy’n dechrau ar 22 Mawrth 2021. 

Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:

Cysylltiadau
Cyswllt 1
Enw'r cyswllt: Ian Bancroft
Ffôn: 01978 292101
Cyfeiriad e-bost: ian.bancroft@wrexham.gov.uk

Llywio Cyfrif

Heb Gofrestru?

  • Trwy gofrestru, byddwch yn gallu cadw gwybodaeth bersonol sy'n arbed amser pan fyddwch yn cofnodi'ch manylion, mae'n gadael ichi wneud cais am swyddi a rheoli'ch ceisiadau am swydd.
  • Cofrestrwch Nawr