Gweithiwr Cefnogi Teuluoedd Tîm Cefnogi Gwarchodaeth Arbennig
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Cau: | 15/10/2021 |
Dyddiad Postio: | 15/10/2021 |
Cyfeirnod: | 05259 |
Disgrifiad
G07- £24,491 - £25,991 yn flynyddol
Mae’r rhain yn swyddi newydd i weithio o fewn y Tîm Cefnogi Gwarchodaeth
Arbennig newydd yn Wrecsam.
Mae’r swydd yn cynnwys cefnogi gwarcheidwaid arbennig a’r plant y maent yn gofalu amdanynt drwy gynnig cyngor a strategaethau rhianta ymarferol ac emosiynol, i gefnogi’r gwarcheidwaid arbennig i fyfyrio ar eu sgiliau a’u profiad i’w galluogi i ddatblygu strategaethau rhianta.
Ar adegau, mae’n bosibl y bydd yn rhaid cefnogi gwarcheidwaid arbennig yn ystod argyfyngau, a chefnogi plant gan ddarparu ychydig o amser i ffwrdd o amgylchedd y cartref a rhoi cyfle iddynt leisio eu barn gan wrando ar eu pryderon, dod o hyd i ffyrdd newydd i’w helpu i ymdopi, atgyweirio a datrys rhai o’u problemau.
Goruchwylio cyswllt lle bo angen ac adolygu’r cynllun cefnogi gwarchodaeth
arbennig yn unol â pholisïau a gweithdrefnau.
Mae’n gyfnod cyffrous i ymuno â’r gwasanaeth newydd hwn a bydd yn gyfle da i siapio’r gwasanaeth.
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n
croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac
yn Saesneg. Ni
fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na
chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Jo Spender |
Ffôn: | 01978 295420 |
Cyfeiriad e-bost: | jo.spender@wrexham.gov.uk |