Rheolwr tîm cynorthwyol Tîm Cymorth i Deuluoedd
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Cau: | 31/10/2021 |
Dyddiad Postio: | 19/10/2021 |
Cyfeirnod: | 05423 |
Disgrifiad
G11 - £37,890 - £40,876 y flwyddyn
Mae’r Tîm Cymorth i Deuluoedd yn chwilio am reolwr tîm cynorthwyol i ymuno â’r tîm rheoli.
Bydd gofyn i’r ymgeiswyr feddu ar brofiad sylweddol ym maes gwaith cymdeithasol plant, gan gynnwys profiad yn rheoli achosion amddiffyn plant cymhleth a chwblhau gwaith llys mewn trafodion cyfraith gyhoeddus.
Bydd yr ymgeiswyr yn gallu gweithio dan bwysau i
oruchwylio a mentora hyd at 5 o weithwyr cymdeithasol a fydd yn gyfrifol am
amrywiaeth o lwyth achosion, gan gynnwys amddiffyn plant ac achosion gofal. Bydd yr ymgeisydd yn unigolyn gonest, dibynadwy a gofalus sy’n gallu
gweithio fel rhan o dîm ac yn annibynnol.
Bydd y rôl yn cynnwys cefnogi’r rheolwr tîm i sicrhau fod
gwaith o safon uchel yn cael ei gwblhau erbyn y dyddiadau cau perfformiad a bod
plant sy’n agored i’r adran yn derbyn gwasanaeth o safon uchel ac yn cael eu
diogelu.
Bydd y rôl yn cynnwys cadeirio cyfarfodydd amlasiantaeth
a chefnogi gweithwyr cymdeithasol y maent yn eu goruchwylio i fynychu
gwrandawiadau llys lle bo’r angen, cadeirio cyfarfodydd Amlinelliad Cyfraith
Gyhoeddus ac ymgymryd â thrafodaethau strategaeth amlasiantaeth a chadeirio
cyfarfodydd strategaeth.
Bydd y swydd yn cynnwys cyfrifoldebau rheoli dyletswyddau
am hyd at 8 diwrnod y mis a fydd yn golygu monitro’r blwch e-bost dyletswyddau
a darparu dirprwyaeth a chyfarwyddyd ar faterion brys a materion nad ydynt yn
rhai brys mewn perthynas â diogelu plant.
Bydd y swydd yn ymofyn i benderfyniadau a chyfarwyddyd
rheoli gael eu cofnodi yn brydlon ar ffeil y plentyn.
Bydd y swydd hon yn llawn amser ac mae’n bosibl y bydd yn
rhaid gweithio y tu allan i oriau gwaith arferol ar ddyddiau dyletswydd.
Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas
heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n
croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac
yn Saesneg. Ni
fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na
chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Lynsey Halligan |
Ffôn: | 01978 292525 |
Cyfeiriad e-bost: | lynsey.halligan@wrexham.gov.uk |