Neidio i'r Prif Gynnwys

Prif Dudalen Lywio

Hafan Cofrestru Sut i wneud cais Cymraeg English

Prif Swyddog Tai

Manylion Swydd Wag


Crynodeb
Grŵp Swydd Wag: Llawn Amser Parhaol
Categori: Tai
Dyddiad Cau: 24/06/2021
Dyddiad Postio: 08/06/2021
Cyfeirnod: 05478

Disgrifiad

Cyflog £89,085 – £99,565  (mae’n bosibl y bydd modd ei ymestyn lle bo angen yn sgil amodau arbennig)

Bydd ein polisi ail-leoli hefyd yn berthnasol i’r swydd hon.

Mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â’n Uwch Dîm Rheoli, mewn rȏl sydd yn adrodd yn uniongyrchol i’r Prif Weithredwr.  Byddwch yn arwain ar y portffolio Tai, ac yn cyfrannu’n weithredol at ein nodau arweinyddiaeth casgliadol er mwyn darparu gwelliannau hirdymor a gwasanaethau cynaliadwy ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Rydym yn chwilio am unigolyn i arwain ein rhaglen buddsoddi mewn gwasanaethau a safonau tai, sy’n cynnwys cynyddu a gwella ein stoc dai a thai gwarchod, lleihau digartrefedd a gwella ansawdd bywyd tenantiaid a’n cymunedau.  

Arwain ar brosiectau siapio lleoedd sy’n gysylltiedig ag asedau gan gynnwys Porth y Gorllewin, ein Safle Treftadaeth y Byd a datblygiadau Canol Tref Wrecsam.

Byddwch yn chwarae rhan hanfodol yn darparu blaenoriaethau Cynllun y Cyngor ynghyd â chyfrifoldeb penodol am ein cynlluniau uchelgeisiol i greu cymunedau ffyniannus, cryf a thai o safon uchel bawb.

Rydym yn chwilio am unigolyn sy’n meddu ar sgiliau arweinyddiaeth ardderchog a gweladwy, yn ogystal â sgiliau proffesiynol a gwybodaeth i ddatblygu perthnasoedd a phartneriaethau effeithiol gydag ystod o fudd-ddeiliaid mewnol ac allanol.

Bydd gennych lwyddiant blaenorol o ddarparu canlyniadau strategol o ran Tai a’r sgiliau i ddylanwadau ac arwain eraill.  Bydd gennych y gallu i arwain ar newid diwylliannol, annog sgyrsiau gonest ar draws y gwasanaeth a hyrwyddo diwylliant ‘Un Cyngor’. Os oes gennych y gallu i ddarparu cymorth ariannol, masnachol a strategol cryf i Swyddogion ac Aelodau’r Cyngor yn y rôl hanfodol hon, byddem yn croesawu cais gennych chi.

I ddarganfod mwy am y swydd hon, ymwelwch â https://www.adeiladuarlwyddiant.cymru/

 Dyddiad cau: hanner dydd 24 Mehefin 2021

Tynnu rhestr yr wythnos yn dechrau 28 Mehefin 2021

 Proses ddethol yr wythnos yn dechrau 5 Goffennaf 2021 (6 & 7 Gorffennaf 2021)



Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:

Cysylltiadau
Cyswllt 1
Enw'r cyswllt: Ian Bancroft
Ffôn: 01978 292101
Cyfeiriad e-bost: ian.bancroft@wrexham.gov.uk

Llywio Cyfrif

Heb Gofrestru?

  • Trwy gofrestru, byddwch yn gallu cadw gwybodaeth bersonol sy'n arbed amser pan fyddwch yn cofnodi'ch manylion, mae'n gadael ichi wneud cais am swyddi a rheoli'ch ceisiadau am swydd.
  • Cofrestrwch Nawr