Prif Swyddog Tai
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Tai |
Dyddiad Cau: | 24/06/2021 |
Dyddiad Postio: | 08/06/2021 |
Cyfeirnod: | 05478 |
Disgrifiad
Cyflog £89,085 – £99,565
(mae’n bosibl y bydd modd ei ymestyn lle bo angen yn sgil amodau
arbennig)
Bydd ein polisi ail-leoli hefyd yn berthnasol i’r swydd
hon.
Mae cyfle cyffrous wedi
codi i ymuno â’n Uwch Dîm Rheoli, mewn rȏl sydd yn adrodd yn uniongyrchol i’r
Prif Weithredwr. Byddwch yn arwain ar y
portffolio Tai, ac yn cyfrannu’n weithredol at ein nodau arweinyddiaeth
casgliadol er mwyn darparu gwelliannau hirdymor a gwasanaethau cynaliadwy ar
gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.
Rydym yn chwilio am
unigolyn i arwain ein rhaglen buddsoddi mewn gwasanaethau a safonau tai, sy’n
cynnwys cynyddu a gwella ein stoc dai a thai gwarchod, lleihau digartrefedd a
gwella ansawdd bywyd tenantiaid a’n cymunedau.
Arwain ar brosiectau siapio lleoedd sy’n gysylltiedig ag asedau gan
gynnwys Porth y Gorllewin, ein Safle Treftadaeth y Byd a datblygiadau Canol
Tref Wrecsam.
Byddwch yn chwarae rhan
hanfodol yn darparu blaenoriaethau Cynllun y Cyngor ynghyd â chyfrifoldeb
penodol am ein cynlluniau uchelgeisiol i greu cymunedau ffyniannus, cryf a thai
o safon uchel
bawb.
Rydym yn chwilio am
unigolyn sy’n meddu ar sgiliau arweinyddiaeth ardderchog a gweladwy, yn ogystal
â sgiliau proffesiynol a gwybodaeth i ddatblygu perthnasoedd a phartneriaethau
effeithiol gydag ystod o fudd-ddeiliaid mewnol ac allanol.
Bydd gennych
lwyddiant blaenorol o ddarparu canlyniadau strategol o ran Tai a’r sgiliau i
ddylanwadau ac arwain eraill. Bydd gennych y gallu i arwain ar newid diwylliannol, annog sgyrsiau gonest
ar draws y gwasanaeth a hyrwyddo diwylliant ‘Un Cyngor’. Os oes gennych y gallu
i ddarparu cymorth ariannol, masnachol a strategol cryf i Swyddogion ac
Aelodau’r Cyngor yn y rôl hanfodol hon, byddem yn croesawu cais gennych chi.
I ddarganfod mwy am y
swydd hon, ymwelwch â https://www.adeiladuarlwyddiant.cymru/
Dyddiad cau: hanner dydd 24 Mehefin 2021
Tynnu rhestr yr wythnos yn dechrau 28
Mehefin 2021
Proses ddethol yr wythnos yn dechrau 5 Goffennaf 2021 (6 & 7 Gorffennaf 2021)
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Ian Bancroft |
Ffôn: | 01978 292101 |
Cyfeiriad e-bost: | ian.bancroft@wrexham.gov.uk |