Therapydd MST
Manylion Swydd Wag
Crynodeb | |
---|---|
Grŵp Swydd Wag: | Llawn Amser Parhaol |
Categori: | Gofal Cymdeithasol |
Dyddiad Cau: | 31/10/2021 |
Dyddiad Postio: | 12/10/2021 |
Cyfeirnod: | 05524 |
Disgrifiad
G09 £30,451 - £32,910
37 awr & Rota ar alwad 24/7
Lleoliad - Coedpoeth
Mae therapi amlsystemig (MST) yn driniaeth sy’n seiliedig ar y teulu a’r cartref ac mae wedi’i seilio ar athroniaeth mai’r ffordd fwyaf effeithiol a moesegol o helpu plant a phobl ifanc yw trwy gefnogi eu teuluoedd a cheisio newid sut mae plant a phobl ifanc yn gweithredu gartref, yn yr ysgol ac yn y gymdogaeth. Bydd y rôl hon yn cefnogi teuluoedd i gyflawni canlyniadau a gytunwyd trwy sicrhau cyswllt rheolaidd gyda nhw trwy’r wythnos, gan gynnwys ymweliadau cartref a chyfarfodydd eraill.
Rydym yn chwilio am bobl sydd wedi’u haddysgu at lefel gradd mewn maes perthnasol ac sy’n cyd-fynd â model MST. Bydd yr unigolyn a benodir i’r swydd yn cael hyfforddiant Sefydlu arbenigol dechreuol ar Therapi Amlsystemig, a fydd yn para 6 diwrnod
Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol. Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.
Bydd rhaid i ymgeiswyr llwyddiannus ymrwymo i rota ar alwad, sy’n sicrhau ein bod yn cynnig ymrwymiad i deuluoedd 24/7. Cynigir taliad cydnabyddiaeth am y dyletswyddau ar alwad hyn, yn unol â pholisi’r Cyngor ac mae hyn yn ychwanegol at y cyflog a nodir.
Mae rhagor o wybodaeth am
MST ar gael ar www.mstuk.org
Mae’r
Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried
hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.
Mae'r
Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu
ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn
Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y
Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:
Cysylltiadau | |
---|---|
Cyswllt 1 | |
Enw'r cyswllt: | Donna Watt |
Ffôn: | 07825280693 |
Cyfeiriad e-bost: | Donna.watt@flintshire.gov.uk |