Neidio i'r Prif Gynnwys

Prif Dudalen Lywio

Hafan Cofrestru Sut i wneud cais Cymraeg English

Gweithwyr Cefnogi - Gwasanaeth Byw yn y Gymuned

Manylion Swydd Wag


Crynodeb
Grŵp Swydd Wag: Llawn Amser Parhaol
Categori: Gofal Cymdeithasol
Dyddiad Cau: 02/01/2023
Dyddiad Postio: 17/12/2022
Cyfeirnod: 05529

Disgrifiad

Gwasanaeth Byw yn y Gymuned

G05 - £21,968 – £22,777 (pro-rata)

Mae cyfle cyffrous ar gael yn y Gwasanaeth Byw yn y Gymuned ar gyfer pobl sydd eisiau gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl yn ein cymuned. Rydym yn helpu unigolion sydd ag anghenion cymhleth mwy dwys gan gynnwys anableddau dysgu i gynnal eu tenantiaethau a byw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Rydym yn helpu pobl i deimlo’n rhan o’u cymunedau; gwneud yn fawr o’u lles a chyflawni eu hamcanion personol.

Rydym yn chwilio am ymgeiswyr deinamig, sy’n gallu cymell eu hunain a sydd ag empathi a pharch. Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn gwerthfawrogi’r gwahaniaethau mewn eraill ac yn ymdrechu i ddarparu gwasanaeth sy’n rhoi’r unigolyn yn ganolog. Bydd yn gweithio’n dda fel aelod o dîm ac ar ei liwt eu hunain; ac yn gallu dilyn cynlluniau a chael gwared ar rwystrau i sicrhau fod y canlyniadau wedi eu cyflawni. Bydd pob ymgeisydd yn hyblyg o ran eu dull gwaith ac wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth cadarnhaol.

I gefnogi unrhyw ymgeiswyr sydd â diddordeb, rydym yn cynnig sesiynau cwrdd a chyfarch i gefnogi arwain a chynghori ar y swydd y gwneir cais amdani ac os oes angen unrhyw gymorth i gwblhau'r cais.

Bydd cyfarfod a chyfarch ar 20 Rhagfyr 1-5pm.

Cysylltwch â Jane Bruce, Rheolwr Cynorthwyol, ar (01978) 298553; 07776516652  os hoffech chi wneud cais (neu am sgwrs anffurfiol am y swyddi).

Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y swydd hon.

Mae’r Cyngor yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr â chymwysterau addas heb ystyried hil, rhyw, anabledd, rhywioldeb, cred grefyddol nac oed.

Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae’n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.


Eitemau wedi'u Llwytho i Lawr:

Cysylltiadau
Cyswllt 1
Enw'r cyswllt: Jane Bruce
Ffôn: 01978 298553
Cyfeiriad e-bost: Jane.Bruce@wrexham.gov.uk

Llywio Cyfrif

Heb Gofrestru?

  • Trwy gofrestru, byddwch yn gallu cadw gwybodaeth bersonol sy'n arbed amser pan fyddwch yn cofnodi'ch manylion, mae'n gadael ichi wneud cais am swyddi a rheoli'ch ceisiadau am swydd.
  • Cofrestrwch Nawr